Newyddion

Arddangosfa newydd Oriel Ysbyty Gwynedd



Oriel Ysbyty Gwynedd

Ffion Evans

Chwarae Materol

Artist Tecstilau Cymreig yw Ffion Evans sy’n annog gwylwyr i gofleidio eu chwilfrydedd ac i ymgysylltu gyda’r gwaith celf, gan ddarganfod cyfnodau o hapusrwydd.

Mae rhan o’r arddangosfa yn dangos gwaith a grëwyd mewn sesiynau tecstilau synhwyraidd gyda Thîm Dementia Ysbyty Gwynedd a chleifion a staff Gwasanaeth Glasoed Gogledd Cymru, lle archwiliwyd gwrthrychau hel atgofion fel ysbrydoliaeth i greu cwiltiau bach synhwyraidd.

Diolch yn fawr i Anthony Morris am ei gymorth i gosod yr arddangosfa.

Bydd ei harddangosfa yn cael ei harddangos yn nerbynfa Ysbyty Gwynedd tan ddiwedd mis Mai.