Celf ar Bresgripsiwn

Beth yw’r cynllun
Mae adran Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd wedi cychwyn cynllun Celfyddydau ar Bresgripsiwn i unigolion sy’n teimlo byddai gweithgareddau celfyddydol o fudd i’w iechyd a llesiant.
Mae cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau creadigol yn rhoi ystod eang o fanteision, yn cynnwys hyrwyddo llesiant, ansawdd bywyd, iechyd a gwerth cymdeithasol.
Bydd y prosiect yn rhedeg fel cynllun peilot i gychwyn ac rydym yn rhagweld bydd y cynllun yn rhedeg hyd at diwedd 2021.
Ar gyfer pwy
Mae’r cynllun ar gael i unigolion 18+ yng Ngwynedd sy’n chwilio am ychwanegiad i therapïau confensiynol. Bydd y cynllun yn fuddiol ar gyfer unigolion sydd eisiau help yn eu hadferiad drwy greadigrwydd a thrwy gynyddu ymgysylltu cymdeithasol.
Cwestiynau cyffredinol
Bydd ystod eang o weithgareddau creadigol ar gael er enghraifft gweithgareddau celf a chrefft, gweithdai cerddorol, perfformiadau, grwpiau dawns a llawer mwy.
Bydd gwybodaeth ynghylch gweithgareddau/digwyddiadau yn ymddangos ar y wefan (lle yn union) ac ar ein gwefannau cymdeithasol (manylion).
Bydd rhan fwyaf o’r gweithgareddau am ddim
Dylech gymryd rhan yn y cynllun os ydych chi’n awyddus i weld newidiadau cadarnhaol yn eich bywyd o ddydd i ddydd. Mae nifer fawr o bobl yn gweld gwahaniaeth positif yn ei bywydau wrth cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol a chymdeithasol.
Gallwch lenwi’r ffurflen gyfeirio ar ein gwefan neu gysylltu trwy ebost ar celfgwynedd@gmail.com.
Manylion Cyswllt
Am fwy o wybodaeth am y cynllun, cysylltwch â celfgwynedd@gmail.com.