Newyddion

Theatr Seilo ar gael i'w logi



Mae Theatr Seilo yn Gaernarfon nawr ar gael i’w logi ar gyfer cynnal amrywiaeth o weithgareddau.

Erbyn hyn mae amryw o gymdeithasau a grwpiau lleol wedi ailddechrau gyda’u gweithgareddau yn y theatr ar ol y Cyfnod Clo. Rydym yn awyddus, serch hynny, i weld cynnydd yn y defnydd a wneir o’r adnodd gwerthfawr hwn dros y misoedd i ddod ac i mewn i’r Flwyddyn Newydd.

Os teimlwch y gallai’r theatr fod o ddefnydd i’ch cymdeithas/sefydliad/cwmni chi, er enghraifft - ar gyfer ymarfer neu gynhadledd/cyngerdd/gweithgaredd codi arain, neu weithgaredd arall, neu os hoffech ragor o wybodaeth (yn cynnwys telerau llogi), byddem yn falch o glywed gennych trwy e-bost at merfyn.morgan@btinternet.com neu ar 01286 672708 neu txt yn unig 07776097195.