Newyddion

Oriel Ysbyty Gwynedd wedi ail agor!



Mae hi’n bleser cyhoeddi y bydd Celfyddydau Cymunedol Gwynedd yn lansio cyfres newydd o arddangosfeydd yn Oriel Ysbyty Gwynedd ddechrau fis Mehefin eleni.

Mae Oriel Ysbyty Gwynedd wedi rhoi llwyfan i artistiaid lleol arddangos eu gwaith yng nghyntedd yr ysbyty ers blynyddoedd, i’w fwynhau gan ymwelwyr a staff.

Bydd Celfyddydau Cymunedol Gwynedd yn gosod arddangosfa gyntaf yr artist Femke Van Gent fydd yn dod â delweddau o debotau, cymylau, draenogod, tafarn fywiog, pobl yn dawnsio a llawer mwy. Ei nod fydd gwneud i bobl wenu a llenwi eu calon.

Medd Femke, darlunydd ac artist cymdeithasol o’r Iseldiroedd sydd wedi byw ar Ynys Môn ers dros 20 mlynedd:“Gobeithio y bydd yn rhoi rhywfaint o obaith a rhyddhad i bobl rhag pryderon, os dim ond am ychydig eiliadau..

“Rwy’n dyheu am ddod â lliw i fywyd pobl trwy fy narluniau, fy nghelfyddyd cymdeithasol a’i holl fodolaeth. Enghraifft o hyn yw’r murluniau rwyf wedi eu creu yn Storiel ym Mangor a thafarn yr Auckland ym Mhorthaethwy”.

Croesawodd y Cyng. Nia Jeffreys, Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned weld yr oriel yn ail-agor: “Credwn fod y celfyddydau yn hanfodol i iechyd a lles trigolion Gwynedd, ac mae’r gofod arddangos yn Ysbyty Gwynedd yn rhan bwysig o hyn.”

“Yn ystod y pandemig Covid 19 a’r cyfnodau clo dilynol bu’n rhaid atal yr arddangosfeydd, felly rydym yn falch iawn o fod yn ail-lansio a dod â chelf yn ôl i’r ysbyty fel rhan o’n gwaith i gefnogi llesiant pobl Gwynedd mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Rydym yn eich gwahodd i ddod i weld y sioe os ydych yn ymweld â Ysbyty Gwynedd”.