Be sy’ mlaen?

Llesiant i Mi




Llesiant i Mi

Cymuned creadigol ar-lein i gefnogi llesiant

18-31/1/21

Ymunwch â ni am bythefnos greadigol ar-lein ar gychwyn 2021. Da ni’n siwr bod pawb yn cytuno bod 2020 wedi bod yn hen flwyddyn anodd i bawb a bod ni gyd yn gobeithio am flwyddyn gwell yn ystod 2021! Mae COFID wedi cael dylanwad ar fywydau pob un ohonom, ac wedi effeithio ar ein llesiant meddyliol. Felly, beth am ddod ar daith greadigol ar ddechrau 2021 i roi ‘cic start’ da i flwyddyn newydd, well gobeithio! Bydd Llesiant i Mi yn cynnig gweithgareddau creadigol wedi eu dewis yn y gobaith o gefnogi’ch lles meddyliol. Bydd y gweithgareddau wedi eu selio o amgylch y ‘pum ffordd at les’ sef pum gweithred sydd wedi eu profi i gyfranu’n bositif at lesiant meddyliol - Cysylltu, Dal i Ddysgu, Bod yn Actif, Bod yn Sylwgar a Rhoi. Bydd Llesiant i Mi yn cynnwys…

Gweithgareddau creadigol

Fideos

Sgyrsiau

Linciau

Syniadau

Ysbrydoliaeth

Cefnogi ein gilydd

Llyfryn

Mae Llesiant i Mi ar gyfer unrhyw un dros 18 oed o Wynedd sy’n awyddus cymryd rhan ac mae’n RHAD AC AM DDIM I BAWB.

Bydd pawb sy’n cofrestru yn cael eu gwahodd i grŵp Facebook caeedig ac yn cael eu tywys drwy’r rhaglen gan Glyn, Gwawr, Chloe a Chloe (oes mae dwy o’r un enw!) sydd am rannu eu profiadau a’u syniadau o ran creadigrwydd a llesiant. Nid yw Llesiant i mi yn raglen o driniaeth na therapi clinigol, ond yn hytrach yn gynllun i ysbrydoli a rhannu syniadau a all fod o gefnogaeth i bobl Gwynedd.

Bydd y cyfnod cofrestru ar agor rhwng 7 - 14 Ionawr. Cadwch lygad allan ar y wefan a chyfryngau cymdeithasol Gwynedd Greadigol am y manylion llawn maes o law.

Edrych mlaen i gychwyn yn barod!