What's On?

No Fit State Circus - Sabotage




No Fit State Circus

Sabotage

Perfformiad arall afieithus, carlamus a digywilydd o danbaid yn arddull nodweddiadol NoFit State.

Mae SABOTAGE yn sioe fawr ysblennydd yn null y syrcas gyfoes ag iddi naws dywyllach, fwy garw a mwy chwyldroadol na’n sioeau arferol. A ninnau yn ôl yn y Big Top ag eitemau newydd anhygoel, cerddoriaeth wreiddiol, offer newydd a theimlad mwy theatraidd, mae SABOTAGE yn herio’r status quo.

Dyma sioe syrcas gyfoes sy’n eich bywiogi, yn codi’ch calon ac sy’n gymdeithasol-berthnasol. Ein teithiau personol sy’n dod â ni i’r man hwn. Mae ein brwydrau a’n breintiau wedi llywio’n taith. Serch hynny, dyma ni’n dod at ein gilydd ar dir cyffredin pabell y syrcas, a syrcas yn iaith gyffredin rhyngom. Mae SABOTAGE yn mynd i’r afael â’r hyn sy’n ein gwahanu a’r hyn sy’n gwneud i ni berthyn. Mae saboteurs yn sefyll allan. Maen nhw’n gwrthsefyll. Maen nhw’n herio’r sefydliad. Maen nhw’n cael eu clywed.

Syrcas i oedolion yw SABOTAGE, ond nid yw’n anaddas i blant.

Cyfarwyddir gan Firenza Guidi.

27 Mai - 11 Mehefin

Pabell Fawr No Fit State

£16 - £24

Tickets here