Be sy’ mlaen?

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru Dawnsio ar gyfer Parkinson's




Mae CDCCymru yn ymestyn eu rhaglen Dawnsio ar gyfer Parkinson’s i Fangor ym Mawrth 2021!

Mae dosbarthiadau Dawnsio ar gyfer Parkinson’s yn hwyliog ac anffurfiol.

Profwyd bod dawns yn datblygu hyder a chryfder, wrth leddfu rhai symptomau bob dydd cyfranogwyr. Mae dosbarthiadau yn greadigol ac yn hyrwyddo teimladau o ryddid rhag cyfyngiadau corfforol a chymdeithasol Parkinson’s.

Rydym yn hwb Cysylltiedig ar gyfer rhaglen Dance for Parkinson’s, English National Ballet.

Bellach mae’r dobsarthiadau yn cael eu cynnal ar-lein, drwy raglen a elwir yn Zoom, y gallwch ymuno â hi o gysur eich cartref yn defnyddio gliniadur, llechen neu deledu clyfar. Mae dosbarthiadau yn para 90 munud, a bydd angen cadair arnoch.

Mae rhaglen Dawns ar gyfer Parkinson’s Bale Cenedlaethol Lloegr wedi bod yn rhedeg ers 2008, ac mae dosbarthiadau’n cael eu cynnal yn Llundain, yn ogystal ag yn genedlaethol mewn partneriaeth â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, DanceEast yn Ipswich, MDI yn Lerpwl a Chyngor Dinas Rhydychen.

Rydym yn falch o fod yn rhan o aelodau Dance for PD, i gefnogi Partneriaeth a Phobl yn Dawnsio gan Dawns ar gyfer Parkinson’s ac i gael cysylltiad â Parkinson’s UK.

Mae rhaglen genedlaethol Dawns ar gyfer Parkinson’s ENB yn mwynhau cysylltiadau agos gyda Parkinson’s UK a’r Gymdeithas Clefyd Parkinson’s Ewropeaidd EPDA.

Os hoffech ymuno â ni ond rydych yn ansicr sut mae defnyddio Zoom, peidiwch â phoeni! Mae CDCCymru yn gweithio mewn partneriaeth â Chymunedau Digidol Cymru i wneud yn siŵr bod pawb sydd eisiau mynediad at y dosbarthiadau hyn yn gallu gwneud hynny gyda hyder a heb ofid. E-bostiwch guy@ndcwales.co.uk am ragor o wybodaeth

£3.50

Ar ddydd Mawrth, 10-11.15am

DYDDIADAU GWEITHDAI

11 + 18 + 25 Mai

8 + 15 + 22 Mehefin