Be sy’ mlaen?

Codi Pais, Codi Pontydd




Dyma broject cydweithredol, cyffrous sy’n cyfuno celf, dawns a geiriau gan griw o ferched ifanc Codi Pais (Lowri Ifor, Casi Wyn a Manon Dafydd) a’r artistiaid Hannah a Jasmine Cash. Bydd cyfle i gymryd rhan mewn cyfres o weithdai creadigol yn arwain at arddangosfa, cylchgrawn a gwahanol berfformiadau ym mannau cyhoeddus Pontio. Oherwydd Covid-19 mae Pontio ar gau, ond, rydym yn parhau gyda’r gweithdai ar-lein a bydd y gweithiau sy’n cael eu creu yn arwain tuag at rhifyn nesaf Cylchgrawn Codi Pais ar ddiwedd yr haf.

Gobeithio pan fydd Pontio yn ail-agor ei drysau byddwn yn gallu arddangos yr holl waith bryd hynny! Darllenwch isod am ragor o wybodaeth am y gweithdai a phwy sy’n rhan o’r project

Gweithdai

Am 2.30pm ar bob dydd Iau ym mis Gorffennaf byddwn yn dod â chyfres o gweithdai ar-lein i ferched rhwng 16 a 25 oed drwy gyfrwng y Gymraeg. Wedi’i harwain gan Lowri, Casi, Manon, Hannah a Jasmine ceir gweithdai celf, dawns, ‘sgwennu a golygu.

I gymryd rhan yn y gweithdai ar-lein, ebostiwch codi pais yma

Maynlion llawn am y gweithdai yma