Be sy’ mlaen?

'Ar y 9' & #GigsBach9Bach




Dydd Gwener y 17eg o Orffennaf, bydd 9Bach yn rhyddhau eu halbwm byw gyntaf erioed o’r enw ‘Ar y 9’.

9Bach – Ar y 9

Albwm Fyw – ar gael yn ddigidol yn unig.

I’w rhyddhau ar y 17eg o Orffernnaf 2020

Cafodd yr 8 trac sydd ar yr albwm eu recordio yn ystod taith y band yn 2019, a oedd yn daith i ddathlu 10 mlynnedd ers rhyddhau eu halbwm gyntaf. Ma’r recordiad yn cynnwys caneuon oddi ar dair albwm stiwdio y band sef ‘9Bach’ – 2010, ‘Tincian’ – 2014 ac ‘Anian’ 2016 – y cwbwl ar gael bellach ar label Real World Records.

GigsBach9Bach

Gyda gigs a chyngherddau byw wedi eu hatal mi fydd Lisa a Martin yn perfformio set byr, o dair cân drwy ffrydio’n fyw.

Ar dudalen facebook 9Bach- Gorffennaf 16 am 7y.h fel rhan o’u cyfres #GigsBach9Bach.

Mae’r perfformiad am ddim ond croeso i chi haelroi i Refuge yma

Mae modd gwylio’r perfformiad dydd Iau Gorffennaf y 16eg yma

Mae’r teitl ‘Ar y 9’ yn gwrthgyferbynnu gyda theitl yr EP ddiweddaraf ‘Noeth’, a oedd yn cynnwys traciau acwstig yn unig, ac mae hefyd yn adlewyrchu teimlad y band tuag at ychwnaegiad Andy Gangadeen i’w ‘line up’, ac mae ei swn electronaidd a’i steil drymio unigryw i’w clywed yn glir ar y recordiad.

Er yn gynnil, mae presenoldeb Gangadeen wedi bod yn bwysig i greu dimensiwn newydd i sain 9Bach, ac yn adlewyrchu angen a dyhead y band i wthio’r ffiniau ymhellach wrth groesdori a phlethu dawn ysgrifennu Lisa Jen gyda chaneuon traddodiadol gwerin Cymru.

“It’s always special to play live with 9Bach, and to record these live shows for an album was an added bonus. We didn’t really tour the first album properly, when it came out, so it was the first time we’d really played a lot of those early songs live, so it fun to revisit them. It was also great to have started working with Andy Gangadeen, and his unique drumming style, which has added something different to our sound. We started to see all the songs in a different light, as a result, and we think you can hear that on this live album. We’ve now started writing new songs with Andy too, looking to develop his input even further, which is very exciting! “ - Lisa Jên and Martin Hoyland.

“From first seeing 9Bach, I was bowled over by their unique sound,” says Gangadeen, “so when I was asked if I’d be up for doing a collaboration with them – and then playing live - I jumped at the chance. On this tour I tour started introducing more textures to the set, but it’s the space in their music which allows the beauty of 9Bach’s frontline to stand out so I was very mindful of not ‘filling the space’ with electronics and beats as this would actually take away from 9Bach’s key elements…”

Mae’r trac ‘Pontypridd’ ar gael i’w ffrydio a lawrlwytho nawr, a bydd unrhyw un sy’n archebu’r albwm o flaen llaw (pre-order) oddi ar Itunes yn derbyn y trac yma yn syth bin.

Cyngor Celffyddydau Cymru Cronfa ymsefydlogi i sefydliadau

Mae 9Bach hefyd wedi derbyn swm o arian gan y Cyngor Celfyddydau o gronfa Loteri Genedalethol Cymru, er mwyn i’r band ganolbwyntio ar gyfansoddi ac ysgrifennu er mwyn datblygu sain newydd - mwy i ddod ar y prosiect cyffrous yma.