Be sy’ mlaen?

Hyfforddiant 'Cwestiwn Ansawdd'




Engage Cymru/ Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru

Hyfforddiant ‘Cwestiwn Ansawdd’

Atriwm, Prifysgol De Cymru, Caerdydd

 

 Dydd Mercher, 26 Chwefror 2020, 10:00 am - 4:00 pm

A hoffech chi allu mynegi, eiriol ar ran, a gwella ansawdd eich gwaith?

Os ydych chi’n gweithio ym maes y celfyddydau, iechyd a lles ac yn dymuno datblygu dealltwriaeth gliriach o’r hyn mae ‘rhagorol’ yn ei olygu mewn perthynas ag ansawdd eich gwaith, dyma’r gweithdy i chi.

Hwylusir ac addysgir y gweithdy gan Jane Willis, Cyfarwyddwr y cwmni ymgynghori celfyddydau ac iechyd Willis Newson, a byddwn yn edrych ar yr hyn rydym ni’n ei olygu wrth sôn am ansawdd yng nghyd-destun y celfyddydau, iechyd a lles a pham fod hyn yn bwysig. Byddwn yn archwilio a yw ansawdd yn gwneud gwahaniaeth i effeithiau a chanlyniadau prosiect ac yn edrych ar ffyrdd y gallem geisio gwreiddio a thystio ansawdd yn ein gwaith.

£70 sefydliadau, £35 ymarferwyr llawrydd

I archebu lle cliciwch yma

Os yw’n well gennych dalu gyda cherdyn credyd neu ddebyd dros y ffôn, cyflwynwch eich ffurflen ac yna ffoniwch y swyddfa Engage yn ystod oriau gwaith ar 0207 729 5858 (Llun-Gwener, 9.30am - 5.30pm).

Os ydych yn dymuno talu gyda siec, cyflwynwch eich ffurflen ac anfon sieciau yn daladwy i Engage ynghyd â nodyn eglurhaol sy’n cynnwys eich enw a’ch cyfeiriad e-bost at: Engage, Rich Mix, 35-47 Bethnal Green Road, Llundain, E1 6LA