Be sy’ mlaen?

Eisteddfod 2021




EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 2021 I’W CHYNNAL YN LLŶN AC EIFIONYDD

Boduan, Llŷn, fydd cartref yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2021, ac mae’r gwaith o baratoi ar gyfer yr ŵyl a’r prosiect cymunedol yn cychwyn nos Fawrth 12 Tachwedd mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhelir yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli am 19:00.
Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, “Ry’n ni’n falch iawn o gyhoeddi lleoliad ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2021. Mae llawer o drafod a sôn wedi bod ar lawr gwlad ers amser, a chyda phopeth nawr mewn lle, braf yw cael rhannu’r newyddion mai Boduan, rhwng Nefyn a Phwllheli fydd ein cartref ym mis Awst 2021.
“Mae’r gefnogaeth i gynnal yr Eisteddfod yn ardal Llŷn ac Eifionydd wedi bod yn arbennig, ac ry’n ni’n edrych ymlaen at gydweithio gyda thrigolion lleol ar draws y dalgylch i wireddu wythnos a phrosiect cofiadwy.
“Ry’n ni’n awyddus i ddenu trawsdoriad eang o bobl gyda phob math o ddiddordebau ac arbenigedd i fod yn rhan o’r tîm, gyda’r profiadol a’r ifanc yn cydweithio er mwyn creu prosiect a gŵyl fydd yn sicr o ddenu cystadleuwyr ac ymwelwyr atom yn eu miloedd.
“Edrychwn ymlaen am ddeunaw mis hapus yn gweithio ar draws y dalgylch, a gall unrhyw un sydd â diddordeb i fod yn rhan o’r tîm gofrestru ar-lein neu ddod i’r cyfarfod cyhoeddus ym Mhwllheli.
Bydd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd, Is-gadeirydd ac Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith, ynghyd â Chadeirydd y Gronfa Leol yn cau ddydd Gwener 15 Tachwedd. Ewch i Eisteddfod Cymru am ragor o wybodaeth.
Os hoffech wybod mwy am yr Eisteddfod, neu os ydych am gofrestru i wirfoddoli fel rhan o’r tîm, gallwch wneud hynny ar-lein neu anfon e-bost at Elen. ‘Does dim cael diddordeb mewn maes penodol i fod yn rhan o’r tîm – mae croeso mawr i bawb sydd am weld yr Eisteddfod yn llwyddo yn lleol.
Yn dilyn y cyfarfod cyhoedddus, bydd y gwaith o ddewis cystadlaethau ar gyfer y Rhestr Testunau ynghyd â’r prosiect cymunedol yn cychwyn, a bydd cyfle i glywed am hyn yn y cyfarfod cyhoeddus.
Bydd adran benodol ar-lein ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn cael ei chyhoeddi’n fuan. Yn y cyfamser, ewch i Eisteddfod Cymru am ragor o wybodaeth am yr Eisteddfod Genedlaethol.

Dyma’r tro cyntaf i’r Eisteddfod ymweld ag ardal Llŷn ac Eifionydd ers 1987, pan gynhaliwyd yr ŵyl ym Mhorthmadog, a chynhaliwyd yr Eisteddfod ddiwethaf yng ngogledd Gwynedd yn 2005!

Yn ôl i rhestr digwyddiadau.