Be sy’ mlaen?

Oriel Brondanw - 'Croesi'r Traeth' - Mapiau yn y llyfrgell




Arddangosfa - Dydd Sul 8 Medi i Dydd Sul 20 Hydref

Gan fod Plas Brondanw wedi edrych dros y Traeth Mawr tua sir Gaernarfon am dros bedwar cant a hanner o flynyddoedd, bydd yr arddangosfa hon o fapiau hynafol a modern yn tynnu sywl at y cyswllt dyfrllyd sydd rhwng Meirionnydd a Chaernarfon. Ni all rhywun ond cael ei swyno gan y dogfennau pwerus a dadlennol hyn.

Sgwrs agoriadol gyda Mike Parker - Dydd Sul 8 Medi 1.30yp

Oherwydd cyfyngiadau gofod, archebwch eich sedd trwy ffonio 01766 770590 neu e-bostio yma

I weld beth sydd ymlaen yn Oriel Brondanw cliciwch yma