Be sy’ mlaen?

Cronfa Drefdadaeth ***SWYDD***




Rheolwr Ymgysylltu - Gogledd Cymru

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn recriwtio ar gyfer Rheolwr Ymgysylltu sy’n siarad Cymraeg ar gontract parhaol, i weithio o gartref, ac sydd wedi’i leoli yng ngogledd Cymru.
£23,000 – £27,000 y flwyddyn
Gweithio o gartref – Gogledd Cymru
Y Gymraeg yn hanfodol
Prif ddiben y swydd hon:
Gweithio fel rhan o’r Tîm Ymgysylltu i gyflenwi gweithgareddau ymgysylltu a chynhwysiant ledled Cymru, gan gynnwys ysgogi a chefnogi llif ceisiadau o ansawdd da; gan weithio mewn Ardaloedd Ffocws yn ôl y gofyn; a chyfrannu at, a gweithredu strategaethau allgymorth sydd wedi’u targedu at flaenoriaethau’r Fframwaith Cyllido Strategol.
Er mwyn bod yn gystadleuol yn y rôl, bydd angen i chi ddangos lefel uchel o wybodaeth, sgiliau a phrofiad yn erbyn ein meini prawf ar gyfer dethol.
Mae’r gallu i weithio’n hyderus yn y Gymraeg ac yn Saesneg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Dylid cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg erbyn dydd Iau 29ain Awst 2019.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ddydd Iau 29 Awst 2019 a bydd y cyfweliad yn cael ei gynnal ar 5 a/neu 6 Medi 2019 yng ngogledd Cymru.
Os nad ydych wedi clywed gan y swyddog recriwtio bythefnos ar ôl y dyddiad cau, gallwch gymryd nad ydych wedi bod yn llwyddiannus.
I wneud cais cliciwch yma i fynd i Safle we Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol