Be sy’ mlaen?

Llenyddiaeth Cymru




Mae Cynllun Nawdd Llên er Lles yn cynnig cymorth ariannol a hyfforddiant i awduron ac artistiaid i ddyfeisio a chyflawni cyfres o weithdai ysgrifennu creadigol gwreiddiol yn y gymuned. Dylai pob prosiect gael ei ddyfeisio gan awdur/artist gyda grŵp arbennig mewn golwg. Mae’r cynllun yn rhan o fenter llenyddiaeth yn y gymuned Llenyddiaeth Cymru, Llên Pawb.

Cyfranogiad mewn llenyddiaeth yw un o’n prif flaenoriethau. Amcan Cynllun Nawdd Llên er Lles yw ysbrydoli rhai o’n hunigolion a’n cymunedau mwyaf ymylol drwy eu galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau llenyddol. I ddarllen rhagor am y cynlluniau a gefnogwyd drwy’r cynllun hwn yn 2018, cliciwch yma

Y mae Cynllun Nawdd Llên er Lles 2019 yn awr ar agor ar gyfer ceisiadau gan awduron ac ymarferwyr creadigol. Dyddiad Cau: 5.00 pm, Dydd Gwener 12 Gorffennaf 2019

Pwy sy’n gallu ymgeisio? Croesewir ceisiadau gan awduron, artistiaid, darlunwyr, gwneuthurwyr ffilm, cerddorion ac ymarferwyr creadigol eraill o Gymru neu sy’n byw yng Nghymru. Serch hynny, mae’n hanfodol fod gweithgaredd llenyddol yn ganolog i’r gyfres o weithdai. Mae Cynllun Strategol Llenyddiaeth Cymru 2019-22 i’w weld yma. Rydym yn argymell eich bod yn ei ddarllen cyn llunio eich cais.

Pryd a ble fydd y weithgaredd yn digwydd? Caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu comisiynu i gynnal eu cyfres o weithdai rhwng Medi 2019 a 31 Mawrth 2020. Bydd yr union ddyddiadau yn cael eu cytuno gyda’r ymgeiswyr llwyddiannus cyn dechrau eu cyfres o weithdai.

Gellir lleoli’r gweithdai yn unrhyw ran o Gymru. Rydym yn croesawu ceisiadau am weithgaredd yn yr ardaloedd canlynol yn arbennig: Sir Gâr, Ceredigion, Sir Fflint, Sir Fynwy, Powys a Wrecsam.

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys cymhwysedd, telerau a sut i anfon eich cais, islwythwch y ddogfen a elwir Galwad cyhoeddus – Cynllun Nawdd Llên er Lles isod. Os hoffech drafod y cyfle hwn ymhellach, cysylltwch â ni