Newyddion

Profiadon Therapydd Celf



Helo bawb, Gwawr dwi ac mi dwi’n therapydd celf cymwys ers 2014. Mi dwi’n credu’n gryf bod creu yn angen ynom i gyd a bod celf yn llesol. Dwi’n teimlo bod cael gweithio fel therapydd celf y fraint, ac mae cael bod yno i bobl ar adegau anodd yn eu bywydau yn rôl arbennig ac unigryw. Fel therapydd dwi’n ceisio cynnig gofod ac amgylchedd diogel i bobl fynegi eu hunain drwy ddelweddau a thrafodaeth. Mae cyfleu teimladau, meddyliau ac emosiynau ar lafar weithiau’n anodd iawn, dyma ble mae celf yn gallu bod o gymorth.

Mi dwi wedi gweithio gydag oedolion mewn uned seiciatryddol, gyda plant a phobl ifanc gydag anableddau ac mewn ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig. Mae pob person yn unigryw ac mae pob perthynas therapiwtig yn wahanol, sy’n gwneud therapi celf yn faes difyr i weithio ynddo. Dwi wrth fy modd gweithio fel therapydd celf, mi dwi’n hwyluso cyfleoedd i helpu pobl ddod i adnabod eu hunanin yn well, i ddatblygu ac i wella drwy greu. Weithiau camau bychain ym mlaen sy’n cael eu gwneud, ond mae unrhyw gam ymlaen yn holl bwysig. Mae cael cyfarfod pobl wrth weithio fel therapydd wedi dysgu cymaint i mi’n bersonol, am yr angen am ofod i adlewyrchu ar ein emosiynau ac am garedigrwydd. Mewn byd sydd mor gymhleth a phoenus, mae cael cynnig gofod i gleientiaid gael bod y nhw’u hunain, i rannu a mynegi heb feirniadaeth, a chael eu derbyn yn ddiamod yn rôl wobrwyol dros ben.