Newyddion

Partneriaeth newydd i ddyrchafu lleisiau pobl ifanc drwy’r celfyddydau



Mae’n bleser gennym gyhoeddi partneriaeth strategol newydd rhwng Gisda a Frân Wen i gefnogi pobl ifanc drwy’r celfyddydau.

Mae GISDA yn elusen sy’n darparu cefnogaeth ddwys ac yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc bregus rhwng 14 a 25 oed yng Ngogledd Cymru. Mae Frân Wen yn gwmni sy’n creu theatr sy’n gwthio ffiniau ar gyfer ac hefo pobl ifanc yng Ngogledd Cymru. Mae’r prosiect hir dymor, ‘Nabod, am ddod â phobl ifanc sydd yn cael eu tangynrychioli, artistiaid profiadol a gweithwyr therapiwtig at ei gilydd er mwyn dyrchafu a rhannu lleisiau pobl ifanc y Gymru gyfoes.

“Mae’r ddau sefydliad yn rhoi lles a llais pobl ifanc wrth galon eu gwaith,” meddai Nia Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Frân Wen.

“Rydym yn rhannu’r un gwerthoedd ac egwyddorion felly mae’r cyd-weithio strategol yma yn gyfle amhrisiadwy i rannu arbenigedd ac arfer dda er mwyn cyfoethogi ein gwaith a hynny er budd pobl ifanc yr ardal.”

Bydd y rhaglen weithgaredd yn cael ei chyd-greu gyda phobl ifanc a bydd yn cynnwys amrywiaeth o sesiynau aml-gelfyddydol a hyfforddiant proffesiynol er mwyn arfogi pobl ifanc i ddatblygu a chreu gwaith creadigol gwreiddiol eu hunain. Meddai Siân Elen Tomos, Prif Weithredwr GISDA, “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i gydweithio ar brosiect cyffrous iawn gyda Frân Wen. “Rydym yn llawn edmygedd o’u gwaith gyda phobl ifanc ers blynyddoedd a chredaf ei fod yn bartneriaeth perffaith a fydd o fudd i GISDA, Frân Wen ac yn bwysicach ein pobl ifanc.”

Ariennir y bartneriaeth gan Plant mewn Angen a Chyngor Celfyddydau Cymru drwy Gronfa’r Loteri.

Un o gamau cyntaf y bartneriaeth yw cyhoeddi dwy swydd allweddol i’r prosiect sef Swyddog Cefnogi Creadigrwydd Pobl Ifanc ac Artist Arweiniol. Bydd rhagor o gyfleon llawrydd yn cael eu cyhoeddi’n fuan.

Ceir rhagor o fanylion am y swyddi yma

MANYLION CYSWLLT

Lynsey Thomas, GISDA

lyndsey@gisda.co.uk

01286 671153

DYDDIAD CAU

10 Mehefin 2022