Newyddion

Mari Elen Jones yw Cyfarwyddwr Artistig newydd y Galeri



Mari Elen Jones yw Cyfarwyddwr Artistig newydd y Galeri

Bydd Mari Elen Jones yn wyneb cyfarwydd i rai ohonoch fel cydlynydd rhaglen Sbarc. Rŵan, mae Mari ar fin ail-gysylltu hefo tîm a chenhadaeth sy’n agos iawn at ei chalon wrth ymuno dros gyfnod yr hydref fel ein Cyfarwyddwr Artistig newydd - croeso, Mari!

Yn wneuthurwr a pherfformiwr theatr, un o aelodau Cwmni Tebot a chrëwr y podlediad ‘Gwrachod Heddiw’, bydd Mari’n dod ag ystod eang o brofiad i’w rôl, a fydd yn siapio profiad ymwelwyr Galeri, yn ogystal â gweithio fel catalydd i ganfas celfyddydol Caernarfon a’r ardal. Mae pethau cyffrous ar y gweill!