Newyddion

Hanes Therapi Celf.



Hanes Therapi Celf.

Ers canrifoedd, mae pobl wedi defnyddio mynegiant artistig fel modd o gyfathrebu straeon, syniadau a chofnodi digwyddiadau pwysig. Wrth i gelf ddod yn nodwedd bwysig mewn diwylliant a hanes, derbyniwyd a dathlwyd yn eang fod celf a mynegiant emosiynol yn gyfystyr â’i gilydd.

Dechreuodd therapi celf fel proffesiwn yng nghanol yr 20fed ganrif. Yr arlunydd Prydeinig Adrian Hill ddyfeisiodd y term ‘therapi celf’ gyntaf yn 1942. Pan oedd Hill yn sâl yn yr ysbyty gyda’r diciâu (TB), gwelodd bod arlunio a phaentio yn therapiwtig. Helpodd gleifion eraill i ddefnyddio celf yn ogystal, a dyma gychwyn gwaith therapi celf. Ysgrifennodd am hyn yn ei yn ei lyfr, Art Versus Illness, yn 1945.

Ymunodd yr artist Edward Adamson, ‘tad therapi celf’ ym Mhrydain gyda Adrian Hill ar ôl yr Ail Ryfel Byd, i ymestyn gwaith Hill i faes iechyd meddwl.

Cychwynnodd hyfforddiant ffurfiol ar gyfer therapyddion celf yn y 1960au, a chaniatawyd i therapyddion celf gael eu cofrestru ym mis Mawrth 1997 ‘dan y Professions Supplementary to Medicine (CPSM), sydd erbyn hyn yn dwyn y teitl Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.

Os yr hoffech ddysgu mwy am gefndir a gwreiddiau’r proffesiwn mae’r llyfr Becoming A Profession: The History of Art Therapy in Britain 1940-82 gan Diane Waller yn darparu cyfrif hanesyddol cynhwysfawr.

Yfory byddwn yn sôn am beth ydy therapi celf a’r broses therapiwtig.