Newyddion

Beth ydy therapi celf?



Beth ydy therapi celf?

Mae therapi celf, math o seicotherapi, yn cynnig cefnogaeth emosiynol a seicolegol yn ystod cyfnodau anoddaf bywyd. Mae gweithio â therapydd celf cymwys yn helpu pobl i ddefnyddio deunyddiau celf, darganfod y broses greadigol a’u cefnogi wrth iddynt archwilio eu meddyliau a’u teimladau drwy’r delweddau maent yn eu creu.

Mae’r broses o wneud delweddau a thrafod mewn therapi celf yn galluogi pobl i ystyried a rhannu profiadau mewn man diogel a chyfrinachol. Gall gefnogi pobl i leihau pryder a’u helpu i ddeall a delio gyda problemau emosiynol, yn ogystal â’u hannog i ddod i adnabod eu hunain yn well a datblygu hunan-ymwybyddiaeth.

Nid oes rhaid i gleientiaid fod yn ‘dda mewn celf’ ac nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol. Gall therapi celf gefnogi pobl sy’n wynebu amrywiaeth o faterion, megis problemau emosiynol neu iechyd meddwl, anableddau dysgu neu gorfforol, cyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd, cyflyrau niwrolegol, neu salwch corfforol a llawer mwy. Mae’n cynnig dewis amgen gwerthfawr i therapïau siarad i bobl sy’n ei chael hi’n rhy anodd, neu’n boenus, i siarad am eu hemosiynau neu brofiadau. Mae hyn oherwydd bod therapi celf yn defnyddio celf fel y brif ffurf o fynegiant a chyfathrebu.

Mae llawer o lyfrau, erthyglau a fideos am therapi celf ar gael, ac mae’r llyfr The Handbook of Art Therapy gan Caroline Case & Tessa Dalley yn sylfaen da os yr hoffech ddysgu mwy am y maes, beth am ymweld a’ch llyfrgell neu siop lyfrau lleol i gael copi?!