Lleoliadau

Canolfan Ysgrifennu Ty Newydd/ National Writers' Centre Ty Newydd



Tŷ Newydd yw Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru. Ers agor ein drysau yn 1990, mae miloedd o awduron wedi camu dros drothwy ein drws gwyrddlas eiconig.

Ein arbenigedd yw trefnu cyrsiau ysgrifennu creadigol preswyl. Rydym yn croesawu grŵp newydd i’n cartref bob wythnos – yn gymysgedd unigryw o unigolion o Gymru, y Deyrnas Unedig, a phob cwr o’r byd. Maent yn treulio amser gyda’i gilydd dan arweiniad awduron proffesiynol, yn cymryd rhan mewn gweithdai a thiwtorialau un-i-un, yn mwynhau darlleniadau, ac yn ymhyfrydu yn awyrgylch ysbrydoledig Tŷ Newydd.

Rydym yn cynnal cyrsiau undydd, cyrsiau penwythnos a chyrsiau wythnos o hyd. Mae gostyngiad o 30% oddi ar y ffi ar gyfer preswylwyr lleol sy’n dymuno mynychu’n cyrsiau yn ddi-breswyl.

Cyfeiriad:

Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd

Llanystumdwy,

Cricieth,

Gwynedd

LL53 0LW

Ffôn: 01766 522811

Gwefan: www.tynewydd.cymru

Ebost: tynewydd@llenyddiaethcymru.org