Be sy’ mlaen?

Sian Hughes - Arddangosfa




Gwahoddir chi i lansiad arddangosfa Sian Hughes, am 2 - 4 ar ddydd Sul y 25ain o Fedi

Mae Darnau Mewn Amser: Llif yn deillio o grant Ymchwil a Datblygu gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2019 a ddefnyddiodd Sian i archwilio cefnwlad y Traeth Mawr, Porthmadog, pan oedd yn aber llanw cyn adeiladu’r Cob, a rôl Afon Dwyryd yn dod â llechi i’r môr. Yn y gosodiad hwn mynegir themâu llif, ynysoedd a mannau croesi, trwy borslen a latecs. Daw marciau o’r tirwedd, sydd wedi’u gwreiddio n eu prioddweddau tryloyw cain, yn fyw trwy oleuadau i wahodd ail-welediad o bethau cyfarwydd.

Bydd Sian yn rhoi sgwrs byr yn ystod yr agoriad, a bydd gwydriad o win neu diod meddal ar gael am rhodd addas.

Bydd yr arddangosfa i’w gweld tan y 6ed o Dachwedd. Cysylltwch a’r oriel am rhagor o wybodaeth.

Oriel Brondanw.org