Be sy’ mlaen?

Un Nos Ola Leuad




Un Nos Ola Leuad

Gan Caradog Pritchard

Ers iddi gael ei chyhoeddi yn 1961 mae Un Nos Ola Leuad wedi cydio yn nychymyg cenedlaethau o ddarllenwyr Cymraeg ac mae’n nofel sy’n parhau i ennyn ymateb ysgubol yn rheolaidd. Bu i Bara Caws deithio’r addasiad llwyfan hwn gyntaf yn 2011 ac yn falch iawn o gael gwneud hynny eto eleni. Betsan Llwyd sy’n gyfrifol am y sgript sy’n seiliedig ar waith gwreiddiol gan Maureen Rhys a John Ogwen, ac mae’r fersiwn hon wedi ei chynnwys ar gwricwlwm lefel ‘A’ Drama CBAC ar hyn o bryd.

Gwaith ensemble fydd y cyflwyniad gyda’r cast yn cynnwys Owen Alun, Owen Arwyn, Celyn Cartwright, Siôn Emyr, Cedron Siôn a Manon Wilkinson.

Am manylion y taith ewch i wefan Theatr Bara Caws yma