Be sy’ mlaen?

Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman Tylwyth gan Daf James




Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman

Tylwyth

gan Daf James

Mae Aneurin wedi bod yn dianc rhag ei orffennol, ond – mewn tro annisgwyl, diolch i Grindr – mae e wedi syrthio mewn cariad. Pan mae Dan ac yntau’n penderfynu mabwysiadu plentyn, mae’r ddau ohonynt ar ben eu digon. Ond wrth addasu i fywyd fel tad, a throi cefn ar orffennol gwyllt, mae ofnau duaf Aneurin yn dychwelyd.

Ddeng mlynedd ers y ddrama glodwiw ac arloesol Llwyth, mae Aneurin, Rhys, Gareth a Dada yn ôl mewn drama newydd, dyner a direidus gan Daf James. Gan daflu golwg grafog ar gariad, teulu a chyfeillgarwch, mae Tylwyth yn cynnig sylwebaeth feiddgar a phryfoclyd ar y Gymru gyfoes.

Ym mhob perfformiad, bydd Sibrwd – ap mynediad iaith Theatr Genedlaethol Cymru – ar gael i dywys y gynulleidfa trwy’r stori trwy gyfrwng llais yn y glust, pa mor rhugl bynnag ydynt yn y Gymraeg. Dewch i siarad â’r tîm ar noson y perfformiad am ragor o wybodaeth.

16+ Yn cynnwys iaith gref, golygfeydd o natur rywiol a themau aeddfed

Gwener 28 Hydref, 7.30pm

(Perfformiad gyda BSL)

Sadwrn 29 Hydref, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

Cynnig Cyntaf i’r Felin:

£12 / £10 dros 60

£16 / £14 dros 60

£12 myfyrwyr a dan 18

Ysgolion: £10 (athrawon am ddim)

Tocynnau yma