Be sy’ mlaen?

Steve Harley Acoustic Band “UNCOVERED”




Steve Harley Acoustic Band

“UNCOVERED”

Caiff Steve Harley ei ystyried fel un o’r perfformwyr mwyaf carismatig ar lwyfan, ac mae’n parhau i chwarae i theatrau llawn dop ledled Prydain ac Ewrop.

A chyda rhyddhau’r CD acwstig “UNCOVERED” ym mis Chwefror 2020, nid yw’r ‘Cockney Rebel’ gwreiddiol yn dangos unrhyw arwydd o arafu.

Bydd y band acwstig ar gyfer 2022 yn cynnwys y feiolinydd / gitarydd hirsefydlog Barry Wickens, Oli Hayhurst ar y bas dwbl a Dave Delarre ar y gitâr.

Mae Steve wedi bod yn chwarae sioeau byw ledled y byd ers dros 45 mlynedd ac nid yw’r wefr o noson arall mewn lleoliad arall i gynulleidfa arall wedi pylu o gwbl.

Bydd y setiau acwstig ar gyfer 2022 yn cynnwys caneuon o’r CD newydd, ynghyd â detholiad o ganeuon helaeth ac eclectig Harley. Bydd Mr Soft, Judy Teen, Sebastian a’r chwedlonol Make Me Smile i gyd yn cael eu hail-gynhyrchu yn yr arddull acwstig unigryw.

Sadwrn 21 Mai

7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£28

Tocynnau yma