Be sy’ mlaen?

Arddangosfeydd Gwanwyn




ARDDANGOSFEYDD Y GWANWYN 2021

Bydd arddangosfeydd y Gwanwyn gan Howard Coles, Lisa Eurgain Taylor, Caroline Atkinson a Paul Emmanuel i’w gweld ar-lein nes bydd caniatad i’r Oriel agor ei drysau i’r cyhoedd.

Cawn olwg newydd ar olygfeydd cyfarwydd trwy waith Howard Coles yn ei arddangosfa sy’n dwyn y teitl ‘Un Funud Fach’.

‘Cymylau Hedd’ yw teitl arddangosfa drawiadol Lisa Eurgain Taylor o dirluniau pur a hudolus sydd wedi eu hysbrydoli gan fynyddoedd Eryri.

‘O Fynydd i Fôr’ yw arddangosfa unigol gyntaf Caroline Atkinson yn y Plas, ac mae’n dilyn cwrs dwy afon trwy ddyffrynnoedd Glaslyn ac Ogwen.

Archwiliadau gyda chnu a phigment yw ffocws arddangosfa Paul Emmanuel, ‘Capel o Wastadrwydd Blewog’.

Cliciwch yma am wefan Pla Glyn Y Weddw