Be sy’ mlaen?

Gweithgareddau Teulu Pontio




Blwyddyn Newydd Dda!

Rydym yn sylweddoli bod dechrau’r flwyddyn hon yn anodd, yn enwedig gan ein bod mewn cyfnod cau arall. Fodd bynnag, mae gennym ddigon o brosiectau digidol yn mynd i’ch diddanu!

Peidiwch ag anghofio am ein tudalen ‘Ar gyfer y Teulu yn y Cartref’ ar ein gwefan sydd â digon o weithgareddau am ddim i blant gan gwmnïau sydd fel arfer yn ymweld â ni yma ym Mhontio. Rhywbeth i ddiddanu’r plant yn ystod y broses gloi!

Ar y dudalen mae:

Taflenni gweithgaredd

Gweithdai dawns

Podlediadau

Straeon

Templedi pypedau

a mwy!

Cliciwch yma i mynd i’r tudalen

Gweithgareddau ar-lein Blas Ionawr

Mae gweithdai yn cael eu rhyddhau bob dydd Iau am 1pm ar Dudalen Facebook BLAS ac maent ar gael am 10 diwrnod.

Cliciwch yma i mynd i tudalen facebook Blas

Gweithdai animeiddio AM DDIM ar Zoom

Mae animeiddio Ceredigion yn glwb animeiddio hwyliog a chyfeillgar ar gyfer pobl niwro-amrywiaeth, fel y rhai ag anableddau dysgu, awtistiaeth neu ADHD. Mae croeso i bawb, ble bynnag yr ydych yng Nghymru.

Mae’r sesiynau’n cychwyn ar 26 Ionawr

Cysylltwch â Rhowan Alleyne trwy e-bost rhowan@wowfilmfestival.com neu ffoniwch 07817 783192