Be sy’ mlaen?

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl




Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 10-16 o Fai, 2021.

Yn ystod yr wythnos, mi fydd Cyngor Gwynedd yn hyrwyddo’r Pum Ffordd at Les wrth benodi diwrnod o’r wythnos ar gyfer pob un o 5 thema’r Pum Ffordd (gwelwch y poster ynghlwm). Pob diwrnod mi fydd fideo yn cael ei rannu ar Facebook/Twitter y Cyngor gyda gwyneb cyfarwydd yn sôn am themâu’r diwrnod e.e. Cysylltu a pwysigrwydd y Pum Ffordd at Les yn ei gyfanrwydd, yn ogystal â rhannu posteri gwybodaeth.

Dyma’r llyfryn ‘Edrych ar ôl fy hun’ 2021 er mwyn helpu bobl feddwl am eu iechyd meddwl/llesiant a’r pwysigrwydd o edrych ar ôl eu hunain. Linc i’r llyfryn -

www.gwynedd.llyw.cymru/edrycharolfyhun