Be sy’ mlaen?

DAWEL NOS - SIOE GLYBIAU gan Llyr Evans, Iwan Charles a Mari Emlyn




Y flwyddyn? 2020! Blwyddyn y clo mawr.

Roedd rhaid i bawb weithio o adref.

Dechreuodd rai gadw’n heini ac eraill…i yfed. Ac ambell un, yfed wrth gadw’n heini.

Bu rhaid i’n plant gael eu haddysgu o adref gan rieni blin a di-glem, tra roedd ein hathrawon yn stryglo ‘mlaen ar chwe mis o wyliau ar dâl llawn.

Ymunodd pawb i guro dwylo i staff Timpsons………………………key workers.

Roedd rhaid gwisgo mygydau a chadw dwy fedr arwahan, er byddai hyn wedi bod yn gyngor da i ambell un cyn y clo mawr.

Bwriad Bara Caws eleni oedd teithio eu sioe glybiau hynod lwyddiannus, nid yn unig drwy bob cwr o Gymru, ond i bob cornel o’r bydysawd, ond oherwydd y corona virus felltith, ‘doedd neb yn cael mynd i nunlle.

Neb heblaw yr Ymwerawdwr, tywysog tywyllwch ei hun, Dominic Cummings, a oedd, am ryw reswm, yn cael teithio i unrhyw le y mynnai.

Wel, ‘doedd Bara Caws ddim am adael i’r Ymerwadwr Cummings nai was bach ffyddlon, Jabba the Hut Johnson, eu trechu.

Felly, dyma sioe glwb rithiol Bara Caws, Dawel Nos gan Gwmni 303.

Ers stalwm mewn siop degannau, roedd dyn heb ei wneud yn iawn. Nid dyn cyffredin mohono ond Gandryll, Eban Gandryll, ac oedd mi roedd o’n Gandryll…

Yr Actorion : Iwan Charles, Lisa Jên Brown a Llyr Evans

Ymddangosiadau gan : Linda Brown, Lois Cernyw, Rheinallt Wyn Davies, Mari Emlyn, Carys Gwilym, Gwenno Elis Hodgkins, Tudur Owen, Emyr Roberts a DEATH.

Cyfarwyddwr : Iwan John

Ffilmio a Golygu : Dafydd Hughes

Perfformiadau

Nos Wener 11 Rhagfyr 2020 am 8.30 y.h

Nos Sadwrn 12 Rhagfyr 2020 am 8.30 y.h

Nos Wener 18 Rhagfyr 2020 am 8.30 y.h

Nos Sadwrn 19 Rhagfyr 2020 am 8.30 y.h

Tocynnau: FFONIWCH GALERI, CAERNARFON

Canllaw oed : 18 +

Defnydd o iaith gref

Hwn fel ymateb Awtomatig i’r cwsmer :

Unwaith fyddi di wedi archebu dy docyn, bydd ‘na ryw grydures fach yn rwla yn anfon linc personol i ti drwy gyfeiriad e-bost tocyndawelnos@gmail.com fydd yn dy alluogi i wylio’r sioe wallgo ‘ma. With gwrs, tydi technoleg ddim bob amser yn gweithio fel dylia fo, felly os na fyddi di wedi derbyn y linc 24 awr cyn y perfformiad, plîs anfona e-bost ata i, neu os ydi hi’n well gen ti godi’r ffôn a siarad hefo person ‘go iawn’ dyma’r rhif - 07880 031 302. Wedyn, ar ôl i ti agor y linc, ‘stedda, ymlacia a mwynha……. Os wyt ti awydd rhoi gwybod faint ti’n fwynhau (neu ddim) yna plîs cysyllta efo’r byd a’r betws drwy’r cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r ‘hashtag’ #DawelNos .