Clwb Darlunio - 18/03/2020 * Cyhoeddiad * COVID-19
18/03/2020 Cyhoeddiad COVID-19
I’n hartistiaid, defnyddwyr, cwsmeriaid, ymwelwyr annwyl a’n ffrindiau
Yn sgil sefyllfa ansicr yn ymwneud â COVID-19, rydym wedi dod i’r penderfyniad anodd iawn i gau Oriel CARN, Caernarfon o heddiw, Dydd Mercher 18fed o Fawrth, ymlaen am y dyfodol rhagwelwadwy, hyd nes y cawn rybudd pellach.
Ein prif bryder yw iechyd a lles ein staff a’u teuluoedd yn ogystal â’n hartistiaid/cwsmeriaid/ymwelwyr. Er ei bod yn bosibl bod ein penderfyniad fymryn yn gynamserol yn ôl y wybodaeth genedlaethol, mae gennym rai aelodau teulu agos iawn sy’n fregus, ac felly ni allwn gymyd unrhyw risg i’w iechyd. Gobeithiwn y byddwch yn deall ac yn parchu ein penderfyniad.
Mi fyddwn yn parhau i wneud pethau ar-lein ac yn gobeithio adeiladu a chael presenoldeb cryf ar-lein yn ystod y cyfnod anodd hwn. Ac rydym eisiau parhau i gefnogi ein artistiaid a chreardigion trwy ddefnyddio platfform ar-lein CARN.
Felly byddwn yn parhau i gynnal digwyddiadau, ond ar fformat digidol/ar-lein. Digwyddiadau fel:
- Noson Ffilm Gwyl y Ferch, Nos Wener 20/03 am 7yh
- Clwb Darlunio Nos Lun 23/03 am 6:30pm
- a Cyfarfod Cyffredinol CARN Nos Iau 26/03 am 6:30yh
Bydd rhain i gyd ar gael i bawb ond ar fformat wahanol, lle gallwch fwynhau o’ch cartref clyd.
Ac os hoffech gefnogi artistiaid a gwneuthurwyr lleol gan brynu rhywbeth o’r arddangosfa neu o’r siop, bydd hyn dal yn bosib. A byddwn yn postio am ddim o dan yr amgylchiadau hyn wrth gwrs. Byddwn yn gwneud newidiadau ac yn diweddaru’n gwefan, www.carn.cymru i gyfaddasu a chefnogi yr angen hwn. Byddwn hefyd yn cyhoeddi diweddariad ar y sefyllfa ac unrhyw ddigwyddiadau ar ein gwefan ac ar ein cyfryngau cymdeithasol, felly cadwch olwg allan.
Bydd hwn yn gyfnod anodd i bob busnes bach, rydym yn dibynnu ar eich cefnogaeth chi i’n cadw ni i fynd yn ystod y cyfnod anodd hwn. Gofynnwn i chi barhau i’n cefnogi ni a busnesau bach eraill ar-lein lle bo hynny’n bosibl.
Diolch i chi am eich cefnogaeth parhaus,
Menna
Cydlynydd CARN ac Oriel CARN