Be sy’ mlaen?

Gweithdy Crefft - (Am Ddim)




Gweithdy Crefft Byw Arlein gyda Celfyddydau Cymunedol Gwynedd

a Lora Morgan - creu rhwyd breuddwydion (dream catcher)

Gweithdy crefft hamddenol yng nghwmni’r grefftwraig Lora Morgan o Siop Siafins, Caernarfon. Cyfle i greu rhwyd breuddwydion (dream catcher) gyda deunyddiau crefft lliwgar. Gweithgaredd dwyieithog cyfeillgar i helpu chi ymlacio a mwynhau yn rhad ac am ddim ar Microsoft Teams. Bydd pawb sy’n cofrestru yn derbyn pecyn o ddeunyddiau crefft drwy’r post i’w defnyddio yn ystod y gweithdy. Dim ond lle i 10 person, felly cyntaf i’r felin! Yn agored i ofalwyr ag eraill. I rai dros 18oed sy’n byw yng Ngwynedd.

Cofrestrwch erbyn 17 Awst! - gwawrwynroberts@gwynedd.llyw.cymru byddwch wedyn yn derbyn linc i fynychu’r sesiwn drwy ebost

Rhan o Wyl Gofalwyr Arlein - Agored i Bawb - 2020 - Mae Pob Un Ohonom yn Mynd i Ofalu rhywbryd.