Be sy’ mlaen?

Wythnos Celf Plant 2020




Mae Celfyddydau Cymunedol Gwynedd yn cymryd rhan yn Wythnos Celf Plant, rhaglen ledled y DU sy’n cael ei rhedeg gan Engage, y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Addysg Oriel, ddydd Llun, 29 Mehefin 2020 - dydd Sul, 19 Gorffennaf 2020.

Dros y misoedd diwethaf, mae pandemig COVID-19 wedi tynnu sylw at ba mor hanfodol yw creadigrwydd a’r celfyddydau gweledol ar gyfer dysgu, cysylltu a lles. Er y gallai ein lleoliadau, ein sefydliadau diwylliannol a rhai adeiladau ysgol fod ar gau, mae cymryd rhan yn y celfyddydau gweledol yn bwysicach nag erioed.

Yn 2020, cynhelir Wythnos Gelf Plant ar-lein, gartref ac mewn ysgolion ar draws tair wythnos ym mis Mehefin a mis Gorffennaf. Bydd pob wythnos yn canolbwyntio ar thema arbennig

Wythnos 1 (o 29 Mehefin): Y Byd Naturiol

Wythnos 2 (o 6 Gorffennaf): Pontio’r cenedlaethau

Wythnos 3 (o 13 Gorffennaf): Llythrennedd ac ysgrifennu creadigol

Defnyddiwch ein taflenni Creu 1 2 3 i greu gweithiau celf gartref. Defnyddiwch ddeunyddiau o bob cwr o’r tŷ i fwynhau creu gweithiau celf gyda’ch teulu. Rhannwch eich creadigaethau gyda ni ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol!

Edrychwch ar ein cyfrifon Facebook a Twitter i gael y wybodaeth ddiweddaraf

Facebook Gwynedd Creadigol @gwyneddcreadigolcreativegwynedd

Twitter Gwynedd Creadigol @celfgwyneddarts

Bydd pecynnau celf a chrefft ar gael i’w harchebu trwy wasanaeth Clicio a Chasglu neu Gyflenwi Cartref Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd (swm cyfyngedig ar gael - y cyntaf i’r felin gaiff falu)

Yn addas ar gyfer:

Teuluoedd

Oed 5–7

Oed 8–11

Oed 12–14 oed

Oed 15–16

Oedran 17-18