Be sy’ mlaen?

Gŵyl Hwyl!




Gŵyl Hwyl!

Bydd Gŵyl Hwyl newydd sbon danlli yn cael ei gynnal yng Nghlwb Pel Droed Porthmadog p’nawn Mawrth 18 o Chwefror. Digwyddiad am ddim ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol, eu teuluoedd a’u ffrindiau.

Mae croeso cynnes i bobl o Wynedd fynychu, dim ond mater o archebu eich tocyn(nau) am ddim yma neu ffonio 01248 370797. P’nawn o hwyl yn ystod wythnos hanner tymor i deuluoedd Gwynedd.

Bydd Kizzy Crawford yn ymuno â ni o dde Cymru, a bydd y gantores leol Sera hefyd yn perfformio. Yn ogystal bydd DJ Strech yno os da chi ffansi dawnsio, a gweithgareddau celf gyda’r artist Elen Williams. Bydd ystafell dawel ar gael os yr hoffech ymlacio gyda gemau a gweithgareddau tawelach ar gael. Bydd bwyd a diod ysgafn yno hefyd i gadw pawb fynd yn ystod y pnawn!

Mae’r digwyddiad yn cael ei ariannu gan Celfyddydau Cymunedol Gwynedd (Cyngor Gwynedd) mewn partneriaeth â phrosiect Amser Ni, Derwen a Gwasnaeth Cynnal Gofalwyr. Death i sylw’r trefnwyr bod mynychu gwyliau cerddorol yn gallu bod yn heriol i rai ag anghenion ychwanegol a’u teuluoedd; felly dyma fynd ati i drefnu rhywbeth arbennig. Gobeithio y caiff bawb hwyl a mwynhau’r buddiannau llesol mae’r celfyddydau’n gallu eu cynnig i ni oll.