Be sy’ mlaen?

Llenyddiaeth Cymru - Ddiwrnodau Hyfforddiant




Llenyddiaeth Cymru - Ddiwrnodau Hyfforddiant
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi lansio cyfres o Ddiwrnodau Hyfforddiant sy’n ffurfio rhan o’n gweithgareddau Datblygu Awduron ar gyfer llenorion Cymru.
Mae ddau ddiwrnod hyfforddiant yn rhedeg ym mis Chwefror 2020. Un yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy, a’r llall yng Nghaerdydd. Mae’r ddau ddiwrnod yn cael eu cynnal yn ddwyieithog ac am ffi o £15 (£20 yn cynnwys cinio).
Bydd diwrnod ar thema Gweithgaredd Llenyddol yn y Gymuned yn cael ei gynnal ar Sadwrn 1 Chwefror 2020 yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy, rhwng 10.00am – 5.00pm.
Diwrnod yw hwn sy’n canolbwyntio ar ddarparu gweithgaredd llenyddol mewn lleoliadau cyfranogol a ffocws arbennig ar weithio gyda phobl anabl. Bydd sesiwn gan gan Disability Arts Cymru i edrych ar sut i gynnal gweithdai a digwyddiadau hygyrch, modelau cymdeithasol a iaith a moesau maes anabledd. Bydd hefyd gweithdy cyfranogi ymarferol gyda Mari Morgan o Gwmni Frân Wen, a sesiwn ar fonitro a gwerthuso digwyddiadau gyda staff Llenyddiaeth Cymru, gan ganolbwyntio’n arbennig ar leisiau sy’n cael eu tan-gynrychioli. Bydd awyrgylch anffurfiol y dydd yn cynnig digon o gyfle hefyd i gwrdd a sgwrsio gydag awduron eraill a staff Llenyddiaeth Cymru, ac i ofyn cwestiynau.
Bydd Diwrnod Datblygu Awduron Caerdydd yn cael ei gynnal ar Sadwrn 15 Chwefror 2020 yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd, 10.00am – 4.30pm.
Bydd y diwrnod hwn yn canolbwyntio ar wybodaeth am y diwydiant a datblygiad proffesiynol yn y sector llenyddiaeth. Bydd yn cynnwys cyflwyniadau gan staff Llenyddiaeth Cymru, panel cyhoeddwr (gan gynnwys cynrychiolwyr o Firefly Press, y Lolfa, Graffeg, a Chyngor Llyfrau Cymru) a sgyrsiau gan weithwyr proffesiynol y diwydiant ar sut i fod yn awdur proffesiynol. Bydd perfformiad a sgwrs gan y bardd a derbynnydd Ysgoloriaeth Awdur Llenyddiaeth Cymru, clare e. potter, yn ogystal â digon o gyfle i gwrdd ag awduron eraill a gofyn cwestiynau.
Mae ein dyddiau hyfforddiant agored yn cynnig cyfleoedd i awduron fireinio ac ehangu eu sgiliau, datblygu a phroffesiynoli eu dulliau o weithio, cynyddu eu gallu i wneud gwaith fel hwyluswyr celfyddydol, cwrdd â rhwydweithio ag awduron eraill, a chlywed gan arbenigwyr yn y diwydiant. Fel y nodir yn ein Cynllun Strategol 2019-2022, mae Datblygu Awduron yn un o’n tair colofn gweithgaredd.
Os ydych yn ymwybodol o awdur a fyddai’n cael budd o’r hyfforddiant hwn, mae mwy o fanylion ar gael ar ein gwefan yma