Be sy’ mlaen?

GRUFF RHYS PANG!




Nos Iau 19 Rhagfyr

Drysau’n agor am 7pm

I ddathlu albwm newydd Gruff Rhys; Pang! mi fydd yr artist gweithgar yn teithio o amgylch Cymru gyda rhai o’r cerddorion o’r record hir yn Rhagfyr 2019, ac rydym yn falch iawn o gael ei groesawu i Theatr Bryn Terfel, Pontio am y tro cyntaf.

Wedi’i recordio yng Nghaerdydd, fe gafodd Pang! ei gymysgu gan yr artist electroneg a’r cynhyrchydd o Dde Affrica; Muzi. Mae’r cydweithrediad unigryw yma yn gymysgedd o gerddoriaeth electroneg, pop a gwerin gyda digonnedd o rhythmau diddorol - wedi’i becynnu mewn steil swynol.

Mae Gruff Rhys yn disgrifio’r albwm yn syml fel albwm pop Cymraeg, gyda teitl Saesneg. Mae’r caneuon yn cynnwys drymiau gan Kliph Scurlock, prês gan Gavin Fitzjohn, ffliwt ag offerynnau taro gan Kris Jenkins, Balafon gan N’famady Kyuyaté, curiadau, bass ag ah’s gan Muzi.

Oed: 16+

Tocynnau yma