Be sy’ mlaen?

Yn Galw ar Artistiaid




Yn Galw ar Artistiaid

Dydd Gŵyl Dewi 2020 – Prosiect Celf Ysgol Dychmygu Bae Colwyn

Mae Dychmygu Bae Colwyn yn brosiect cyffrous sy’n ceisio harneisio diddordeb pobl yng ngorffennol
unigryw’r dref i ysbrydoli a chysylltu pobl, grwpiau a busnesau drwy weithgareddau, arddangosfeydd a
digwyddiadau diwylliannol ac arloesol.
Pwrpas y comisiwn hwn yw contractio artist preswyl i hwyluso sesiynau creadigol mewn ysgolion cynradd lleol.
Mae gofyn i’r sesiynau ddarparu profiad celfyddydol i ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn y 5 ysgol gynradd sy’n cymryd rhan (ym Mae Colwyn a’r cylch) sy’n cysylltu â hanes lleol ac yn dathlu Diwylliant
Cymru. Bydd yr ysgol yn defnyddio cynhyrchiant creadigol y sesiynau hyn fel rhan o orymdaith Dydd Gŵyl Dewi.
I ymgeisio, anfonwch:
Copi o’ch CV
Manylion am brofiad o brosiectau tebyg
Cynllun amlinellol yn nodi eich dull o gyflawni’r prosiect hwn – dylech gynnwys:
Cyfanswm y sesiynau y byddech chi’n eu darparu o fewn y gyllideb
Cyfanswm y disgyblion y byddwch yn gweithio â nhw fesul sesiwn
Croesewir ceisiadau cydweithio / partneriaeth
Cyfanswm y gyllideb sydd ar gael: £4,500 yn cynnwys cyllideb deunyddiau

Dyddiad cau; Canol dydd ar 16 Rhagfyr 2019

Am mwy o fanylion ac i ymgeisio cysylltwll a Helen Jackson trwy ebyst yma neu ffôniwch 01492 574253