Be sy’ mlaen?
Galeri
Blasu Crefft
Dyma sesiwn blasu/gweithdy gyda’r nos sydd yn rhan o gyfres Blasu Crefft Galeri. Dyddiadau’r tymor yw:
03.09.19 : Tecstiliau Creadigol (gyda Theresa Foxbyrne) Tocynnau
17.09.19 : Paentio Gwydr (gyda Verity Pulford) Tocynnau
01.10.19 : Creu Daliwr Gemwaith (gyda Beca Fflur) Tocynnau
15.10.19 : Gweithdy Ffelt (gyda Anwen Hughes) Tocynnau
29.10.19 : Torri Leino (gyda Jen o Peris + Corr) Tocynnau
Addas i oed 16+.
Dosbarth Meistr: Clustdlysau Arian
Y gemydd cyfoes, Karen Williams fydd yn cyflwyno technegau gwneud gemwaith sylfaenol gan gynnwys llifio, ffurfio a sodro arian. Bydd posib arbrofi gydag offer a metal i greu gweadau cyferbyniol ar gyfer creu dau bâr o glustdlysau bach (neu un par mawr) o glustdlysau mawr unigryw.
Canllaw oed: 16+
Cynhelir y gweithdy yn ddwy-ieithog.
Pris (£75) yn cynnwys holl offer/deunyddiau.
11:00 - Dydd Sadwrn, 2 Tachwedd
Masterclass: Argraffu Sgrin
Argraffwch eich dyluniad eich hun!
Gweithdy diwrnod gyda Jen o gwmni Peris + Corr. Cyfle i arbrofi gydag offer, technegau a chreu eich dyluniad argraffu sgrîn eich hun.
Dewch i ddysgu’r sgiliau sylfaenol o sefydlu proses sgrîn cylch, ailadrodd patrwm argraffu ac argraffu ar ffabrig.
Canllaw oed: 16+
Cynhelir y gweithdy drwy gyfrwng y Saesneg.
Pris (£75) yn cynnwys holl offer/deunyddiau.
11:00 - Dydd Sadwrn, 9 Tachwedd
Dosbarth Meistr: Addurn Nadolig
Gweithdai 2 awr gyda’r gwneuthurwraig gemwaith, Lora Wyn.
Yn ystod y sesiwn byddwch yn creu addurn Nadolig weiren a gleiniau.
Canllaw oed: 16+
Cynhelir y gweithdy yn ddwy-ieithog.
Pris (£25) yn cynnwys holl offer/deunyddiau.
11:00 - Dydd Sadwrn, 23 Tachwedd
Olwyn Lliw
Tymor newydd o weithdai celf misol ar gyfer oedolion.
Dan ofal medrus y tiwtor/artist Jwls Williams - dyma gyfle i ddysgu a datblygu sgiliau newydd ac i arbrofi gyda deunyddiau a thechnegau amrywiol. Mae’r sesiynau yn ddelfrydol ar gyfer lefel dechreuwyr ond yn agored i unrhyw berson creadigol sy’n dymuno datblygu ei crefft.
Cynhelir y gweithdai yn fisol ar ddyddiau Iau rhwng 10:30–12:30. Dyma’r dyddiadau/themau am y tymor:
Medi 12: Persbectif
Hydref 9: Pasteli Sialc a pasteli olew
Tachwedd 14: Ffotogyfosodiad a Gludwaith
Rhagfyr 12: Darlunio arsylwadol
£10 y sesiwn.
Gweithdai yn addas i oed 16+
Mae cyfyngiad capasiti – archebwch eich lle yn gynnar