Be sy’ mlaen?

Cystadleuaeth 'Dylunio Cymeriad' Storiel




Cystadleuaeth ‘Dylunio Cymeriad’ Storiel

Agored i artistiaid ifanc Gwynedd o dan 25 oed

Mae Amgueddfa & Oriel Storiel Bangor yn chwilio am gymeriad bach hoffus fel masgot fydd yn apelgar i blant 4 – 10 oed. Yn ddelfrydol, bydd edrychiad y cymeriad yn cyd-fynd a phwrpas, logo & lliwiau Storiel. Mae gan amgueddfa ac oriel Storiel raglen fywiog o arddangosfeydd dros dro, a chynhelir digwyddiadau arbennig yma hefyd. Mae’r arddangosfa barhaol yn ymwneud â gwahanol agweddau o fywyd yng Ngwynedd trwy’r oesoedd. Mae’r caffi acw yn cynnig lle braf i ymlacio hefo panad a byrbryd, a’r siop yn llawn rhoddion gwych a chrefftau lleol.

Bydd y cymeriad newydd yn cael ei defnyddio ar draws nwyddau a chyhoeddiadau plant Storiel. Rhoddir gwobr ar ffurf tocyn £50 siop Storiel i’r artist buddugol, ynghyd a chyhoeddusrwydd yn y cyfryngau yn ystod lansiad y cymeriad cyn y Nadolig.

Image result for how to draw cartoonCynigion ar ffurf llun ar bapur neu ffeil .jpg gydag enw, oed a manylion cyswllt erbyn y dyddiad cau – Tachwedd 18 2019 at sylw:

Helen Walker, Swyddog Dysgu,

Storiel, Ffordd Gwynedd, Bangor LL57 1DT

Neu ebostiwch Helen yma