Be sy’ mlaen?

Celf yn yr amgylchedd naturiol - Ffarm Moelyci / Oriel Plas Glyn y Weddw




Celf yn yr amgylchedd naturiol

23 Medi 10yb - 3yp Ffarm Moelyci, Tregarth. Am ddim!

24 Medi 10yb - 3yp Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog. Am ddim!

Gweithdy celf i’ch cyflwyno i weithio yn yr awyr agored ac annog defnydd o ddeunyddiau naturiol mewn modd creadigol. Bydd yn gyfle i gyfrannu’n bositif tuag at eich iechyd a’ch lles drwy ddysgu pethau newydd yng nghwmni eraill, cydweithio a bod yn sylwgar ac actif.

Bydd y gweithdy yn cael ei arwain gan Pom Stanley, artist amgylcheddol gyda chymorth Abbie Parry, artist cymunedol. Mae’n agored i drigolion Gwynedd yn unig. Rhaid archebu lle gan fod llefydd yn gyfyngedig, felly cyntaf i’r felin. Mae cymryd rhan am ddim ond fe ofynnir am flaendal o £20, caiff hwn ei ad-dalu os y byddwch yn mynychu.

Bydd paned ar gael. Dewch a phecyn bwyd i ginio a gwisgwch ddillad addas i weithio yn yr awyr agored. Awgrymwn eich bod yn dod a llyfr sgets a chamera i gofnodi’ch gwaith. Dewch i fwynhau a dysgu dulliau newydd o greu!

Trefnir y gweithdai yma yn rhan o Wythnos Edrych ar ôl fy Hun Gwynedd 2019 gan Uned Celfyddyadu Cymunedol, Cyngor Gwynedd. Cysylltwch am fwy o fanylion gyda Gwawr Wyn Roberts

/ 01286 679721 / www.gwynedd.llyw.cymru/celf