Artistiaid

Siop iard



Grŵp o 6 artist yw ‘Siop iard’ sy’n rhannu gweledigaeth am rannu eu crefft trwy ddysgu cyrsiau a gwerthu eu cynnyrch o ‘Siop iard’ yng Nghaernarfon.

Maent yn cynnig cyrsiau celf a chrefft yn Llety Arall yng Nghaernarfon drws nesaf i’r siop a gall eu prynu ar-lein. Gallwn warantu mwynhad, creadigrwydd ac ysbrydoliaeth yn yr amgylchedd braf a chyfeillgar yma. Mae rhestr lawn o gyrsiau ‘Siop iard’ ar gael drwy’r flwyddyn. Mae dewis eang o sgiliau yn cael ei dysgu gan artistiaid profiadol.

Artisitiaid Siop iard:

Ann Catrin Evans - Cerflunydd

Angela Evans - Dylunydd Gemwaith

Dave Stephen - Celf Llechen

Elin Mair - Dylunydd Gemwaith

Charlotte Bellis - Dylunydd Gemwaith

Hanna Liz - Dylunydd Gemwaith

A nifer o artistiaid gwadd sy’n dysgu tecstiliau, trefnu blodau, serameg, gwaith gwydr a llawer mwy.

Rydym yn sicr fod rhywbeth at ddant pawb ymysg y bwrlwm creadigol yma.

Cyfeiriad: Siop iard, Stryd y Plas, Caernarfon,LL55 1RR

Hefyd : Siop iard, Gaol Street, Pwllheli, LL58 5RG

Ffôn: 01286 672472

Gwefan: www.siopaiard.com

Ebost: info@iard.co.uk