Mudiadau

Therapiau Celfyddydau BIPBC / BCUHB Arts Therapies



Gwefan: www.wales.nhs.uk/sitesplus/861/tudalen/48047 Ebost: Elizabeth.Aylett@wales.nhs.uk Beth yw Therapi Celf? Mathau o therapi mynegiannol sy’n defnyddio’r broses greadigol i wella lles emosiynol a chorfforol yr unigolyn yw Therapi Celf. Ceir pedwar proffesiwn:

• Therapydd Celf/Seicotherapydd Celf • Therapydd Cerdd •Therapydd Drama • Therapydd Symudiad Dawns

Mae Therapyddion Celf yn ymarferwyr profiadol a chymwysedig yn eu celfyddyd ddewisedig ac wedi’u hyfforddi i lefel Meistr ôl-raddedig. Maent wedi cofrestru gyda Chyngor Proffesiynau Iechyd y DU (HPC).

Ynglyn â Therapi Celf: Y defnydd therapiwtig o gelf, cerddoriaeth, drama neu ddawns o fewn perthynas broffesiynol yw Therapi Celf, i bobl sy’n profi salwch, trawma neu heriau bywyd, a’r rheiny sy’n awyddus i ddatblygu’n bersonol. Trwy greu celf, ymgysylltu â cherddoriaeth a myfyrio ar y cynnyrch a’r prosesau, gall pobl ddod yn fwy ymwybodol ohonynt eu hunain ac eraill, ymdopi â symptomau, straen a phrofiadau trawmatig a gwella galluoedd gwybyddol.

Ynglyn â’r therapydd: Gweithwyr proffesiynol a hyfforddwyd yn y celfyddydau ac mewn seicotherapi yw therapyddion celf. Maent yn gwybod llawer am ddatblygiad dynol, damcaniaethau seicolegol, arfer clinigol, traddodiadau artistig, a photensial creadigedd i iachau. Maent yn defnyddio’r cyfrwng creadigol i asesu, trin ac ymchwilio. Lle maent yn gweithio: Bydd therapyddion celf yn gweithio gyda phobl o bob oed: unigolion, cyplau, teuluoedd, grwpiau a chymunedau. Maent i’w canfod yn bennaf yn y GIG, y Gwasanaethau Cymdeithasol a lleoliadau eraill dan adain y llywodraeth fel Gwasanaeth Carchardai Ei Mawrhydi. Gallant ddarparu gwasanaethau, yn unigol ac fel rhan o dimau clinigol, mewn lleoliadau sy’n cynnwys iechyd meddwl; anableddau dysgu; datblygiad ac iechyd plant; meddygaeth gorfforol a sefydliadau fforensig. Y tu hwnt i leoliadau clinigol, byddant yn ymarfer mewn rhaglenni allgymorth yn y gymuned; ysgolion, cynlluniau byw â gofal ychwanegol; cartrefi nyrsio; stiwdios agored a chymorthfeydd annibynnol yn y sector annibynnol, elusennol a gwirfoddol.

Mae therapyddion Celf a Cherddoriaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gweithio i’r gwasanaethau canlynol:

• Iechyd Meddwl Oedolion (gofal eilaidd a chychwynnol) • Iechyd Meddwl Fforensig Oedolion (Uned Gadarn Ganolig) • Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc