Lleoliadau

Storiel



Oriel

Mae gan yr oriel raglen eang o arddangosfeydd sy’n dangos gwaith celf gan artistiaid lleol a rhyngwladol. Yn newid yn rheolaidd, mae’r oriel yn gyson yn cynnig ysbrydoliaeth.

Amgueddfa

Dodrefn Cymreig, tecstilau, celf, archaeoleg, eitemau o hanes cymdeithasol…. mae Storiel yn llawn o storiau o Wynedd a’r ardal gyfagos. Ymysg rhai o’r trysorau y gallwch fwynhau y mae cleddyf Rhufeinig o Segontiwm, y ‘Welsh Not’, model o bont grog Telford, Coron Brenin Enlli a llawer mwy.

Siop

Mae’r siop yn gwerthu cymysgedd o grefftau unigryw a wnaed â llaw gan gynnwys crochenwaith, gemwaith, cardiau cyfarch a phrintiau. Mae Cynllun Casglu’r Principality sef cynllun credyd di-log, ar gael i unigolion brynu gwaith celf a chrefft wreiddiol a chyfoes o’r oriel a’r siop.

Mae’r staff wrth law i ateb eich cwestiynau.

Mae gennym gefnogwyr bywiog iawn, sef Cyfeillion Storiel yn cefnogi ein gwaith trwy godi a hyrwyddo’r casgliadau. Croesewir aelodau newydd at y Cyfeillion.

Cyfeiriad:

Ffordd Gwynedd,

Bangor,

LL57 1DT

Ffôn: 01248 353368

Gwefan: www.storiel.cymru

Ebost: storiel@gwynedd.llyw.cymru