Lleoliadau

Oriel Plas Glyn Y Weddw



Mae’r ganolfan gelf a threftadaeth unigryw hon sydd yn cael ei rheoli gan elusen annibynnol wedi ei lleoli ym mhentref Llanbedrog. Ymhlith atyniadau y safle mae rhaglen eang o arddangosfeydd a digwyddiadau, siop yn gwerthu amrywiaeth o grefftau a nwyddau o safon, caffi yn gweini prydau ysgafn a chacennau cartref blasus, theatr awyr agored a rhwydwaith o lwybrau troed yn arwain trwy goedwig hynafol.

Mynediad am ddim. Ar gau ar ddydd Mawrth tu allan i wyliau ysgol rhwng Tachwedd a Mai.

Cyfeiriad:

Llanbedrog,

Pwllheli,

Gwynedd

LL53 7TT

Ffôn: 01758 740763

Gwefan: www.oriel.org.uk

Ebost: enquiry@oriel.org.uk