Lleoliadau

Canolfan Hanes Uwchgwyrfai



Canolfan gymunedol a sefydlwyd y hen ysgoldy Eben Fardd yng Nghlynnog Fawr trwy gymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru, Amcan 1 yr Undeb Ewropeaidd, Cyngor Gwynedd a Chronfa Arbrofi Eryri. Mae’r ardal yn ymestyn o’r Bontnewydd (Afon Gwyrfai) yn y Gogledd i Fynyddoedd yr Eifl yn y de ac yn cynnwys Dyffryn Nantlle. Mae’r Ganolfan yn ymhyfrydu yn ein hanes goludog ac yn creu bwrlwm o weithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg ee:

Cyhoeddi Utgorn Cymru (cylchgrawn hanes cenedlaethol a gwladgarol, bob chwarter, ar ffurf cryno ddisg /mp3 ar gyfer tanysgrifwyr, fe’i hanfonir hefyd at y deillion yn ddi-dâl, y Golygydd yw Geraint Jones); cyhoeddi cryno ddisgiau llafar yn ymwneud â hanes Cymru; cyhoeddi llyfrau a chardiau cyfarch; trefnu darlithoedd a gweithgareddau diwylliannol yn cynnwys cylch trafod llyfrau (Cyfeillion Eban); trefnu arddangosfeydd yn achlysurol; gardd hanesyddol; datblygu archif ddigidol. Gwirfoddolwyr sydd yn gyfrifol am y gweithgareddau hyn.

Ein gweithgaredd diweddaraf yw creu Cof y Cwmwd www.cof.uwchgwyrfai.cymru sydd yn prysur ddatblygu yn brif ffynhonnell gwybodaeth am hanes a thraddodiadau Cwmwd Uwchgwyrfai. Derbyniwyd nawdd y Loteri Cenedlaethol i sefydlu’r wefan hon ond mae hithau erbyn hyn yn dibynnu ar wirfoddolwyr dan arweiniad Gareth Haulfryn Williams.

Cyfeiriad:

Canolfan Hanes Uwchgwyrfai,

Clynnog Fawr,

Caernarfon,

Gwynedd,

LL54 5BT

Ffôn: 01286 660 853

Gwefan: www.uwchgwyrfai.com

Ebost: hanes@uwchgwyrfai.com