ORIELAU
Os hoffech fod ar y rhestr hon cysylltwch â ni.
Amgueddfeydd ac Orielau Cyngor Gwynedd•••••••• t: 01286 679098
Mae Amgueddfeydd ac Orielau Cyngor Gwynedd yn trefnu rhaglen amrywiol o gelf a chrefft gan artistaid lleol a theithiol. Ceir digwyddiadau blynyddol megis y Sioe Gelf Agored a'r Ffair Grefftau cyn y Nadolig. Rhoddir cyfle i artistiaid ifanc Gwynedd arddangos eu doniau artistig yn Llyfrgell Caernarfon a Chanolfan Maenofferen, Blaenau Ffestiniog.
www.gwynedd.gov.uk/celf
Cyfadran Datblygu, Cyngor Gwynedd, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH
Bill Swann Glass ••••••••••••••••••••••••••••• t: 01766 515428
Yn arddangos gwaith gwydr unigryw Bill Swann. Ar agor drwy drefniant.
www.billswannglass.co.uk
Stiwdio Glaslyn, Ffordd Glaslyn, Porthmadog, Gwynedd LL49 9EG
Castell Penrhyn ••••••••••••••••••••••••••••• t: 01248 353084
Rydym yn atyniad treftadaeth o bwys gyda chyfleusterau amrywiol gan gynnwys dwy oriel ar gyfer cynnal arddangosfeydd gan artistiaid lleol. Mae hyn yn creu ymwybyddiaeth ymysg ein hymwelwyr o dalentau'r fro ac mae ein harddangosfeydd yn cwmpasu gweithgaredd celfyddydol eang o ffotograffiaeth i grefftwaith ac o frodwaith i grochenwaith.
www.nationaltrust.org.uk
Castell Penrhyn, Bangor, Gwynedd LL57 4HN
Hen Feudy ••••••••••••••••••••••••••••••••• t: 01654 710914
Mae Oriel Hen Feudy a'r ardd yn cynnig lle i arddangos lluniau, crefftau, cerflunwaith, printiadau, cardiau a llyfrau. Ffoniwch os gwelwch yn dda i drefnu ymweliad.
www.saa.co.uk/art/janewhittle
Ty'r Gawen, Llanegryn, Tywyn, Gwynedd LL36 9UG
Oriel Llwyngwril ••••••••••••••••••••••••••••• t: 01341 250054
Oriel Llwyngwril yw cartref Celfyddydau Celynin Arts sy’n Fudiad Celfyddydol Cymunedol dielw. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys cyngherddau, gweithdai a phrosiectau a digwyddiadau cymunedol. Mae gan yr oriel wefan sy’n derbyn archebion, tudalen ar gyfer artistiaid a dyddiadur digwyddiadau.
www.llwyngwril-gallery.co.uk
www.llwyngwrilfairbournefriogscarecrows.blogspot.com
Oriel Llwyngwril, Llwyngwril, Gwynedd LL37 2JQ
Oriel Dafydd Hardy ••••••••••••••••••••••••••• t: 07774 730325
Mae Oriel Dafydd Hardy'n ganolfan gelfyddydol wahanol/arbrofol/ar gyfer pobl ifanc a reolir am resymau cwbl anhunanol gan Gwmni Gwerthwyr Tai Dafydd Hardy. Mae'r lleoliad yn cynnig cyfle unigryw i is-raddedigion, graddedigion ac ôl-raddedigion gyd-gyfarfod i gyfnewid syniadau, cynnal arddangosfeydd blaengar a chreu st?r!!
Y Maes, Caernarfon, Gwynedd LL55 2NF
Oriel Tan yr Hall ••••••••••••••••••••••••••••• t: 01678 521854
Oriel newydd sy'n arddangos a gwerthu gwaith gwreiddiol a phrintiadau
artistaid Penllyn a mwy. Cardiau a gwaith coed hefyd ar werth ynghyd â
chynnyrch cystadleuaeth a gynhaliwyd ymysg arlunwyr lleol – pob un yn
cynnig eu dehongiad unigryw eu hunain o Lyn Tegid.
5 - 8 Stryd Fawr, Y Bala, Gwynedd LL23 7AB
Oriel Plas Glyn-y-Weddw •••••••••••••••••••••• t: 01758 740763
Eleni mae Plas Glyn-y-Weddw'n 150 mlwydd oed ac erbyn hyn yn gartref i un o orielau pwysicaf Cymru gan arddangos gwaith ein prif artistiaid. Mae'r mynediad i'r oriel am ddim gyda bwyty a siop grefftau Cymreig o safon ar y safle.
www.oriel.org.uk
Llanbedrog, Pwllheli, Gwynedd LL53 7TT
Oriel Rob Piercy ••••••••••••••••••••••••••••• t: 01766 513833
Sefydlwyd Oriel Rob Piercy dros ugain mlynedd yn ôl er mwyn arddangos lluniau gwreiddiol a phrintiadau gwaith yr arlunydd o Borthmadog.
www.robpiercy.com
Stryd yr Wyddfa, Porthmadog, Gwynedd LL49 9BT
Oriel Glynllifon •••••••••••••••••••••••••••••• t: 01286 830222
Mae’r siop a’r oriel ar agor bob dydd o’r wythnos. Dyma gyfle gwych i chi brynu neu gomisiynu crefftwaith a chelf unigryw rhai o brif artistiaid Cymru.
www.gwynedd.gov.uk
Ffordd Clynnog Fawr, Llanwnda, Caernarfon, Gwynedd LL54 5DY
The Gallery, Aberdyfi•••••••••••••••••••••••••• t:01654 767319
Mae The Gallery, Aberdyfi, bron yn ddeugain mlwydd oed. Mae'n agored bob dydd ac yn arddangos lluniau trawiadol, dewis eang o gardiau cyfarch dethol, tlysau a nwyddau seramig. Mae gwasanaeth cyhoeddi ar gael hefyd ar gyfer artistiaid a ffotograffwyr.
www.gwynedd.gov.uk
The Gallery, Aberdyfi, Gwynedd LL35 0EH
Tonnau•••••••••••••••••••••••••••••••••••• t: 01758 612806
Oriel Gelf yw Tonnau yn un o brif strydoedd Pwllheli ac sy'n arddangos gwaith arlunwyr a chrefftwyr ar thema'r môr. Gyda dros 100 o artistiaid ar y llyfrau cynhaliwn bedair arddangosfa newydd bob blwyddyn a chyhoeddwn nifer cyfyngedig o brintiadau lluniau ein harlunwyr mwyaf poblogaidd.
www.tonnau.com
21 Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd LL53 6NG
Oriel White Room•••••••••••••••••••••••••••• t: 01766 780501
Adeilad cofrestredig o’r Ail Ganrif ar Bymtheg yn arddangos crochenwaith a cherfluniau serameg o waith Alan a Lynette Gayden, a sefydlodd Grochendy Harlech ym 1971. Hefyd yn cael ei arddangos mae gwaith crochenwyr eraill o Gymru yn ogystal â lluniau, ysgythwaith, cerfluniau, gwehyddwaith, tlysau a chardiau.
Pentre'r Efail, Harlech, Gwynedd LL46 2YG
