Newyddion Diweddaraf

ACYFLE I ARTISTIAID GWYNEDD

ARDDANGOSFA FFOREM CELF

Bydd cyfle i artistiaid Gwynedd ddangos eu doniau mewn digwyddiad ym Mhortmeirion ar 16 ac 17 Tachwedd.

Cyfle i artistiaid a grwpiau artistig i ddangos eu gwaith yw Arddangosfa Gwynedd Greadigol – bydd amrywiaeth eang o weithgareddau o stondinau yn arddangos lluniau a chrefftau i berfformiadau cerddoriaeth a theatr. Trefnir y digwyddiad, a fydd ar agor i’r cyhoedd, gan bartneriaeth rhwng Fforwm Celfyddydau Gwynedd ac Uned Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd. Mae’n gyfle i artistiaid werthu eu gwaith yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o gyfleon creadigol yn y sir.

Bydd golygfeydd godidog arfordir Meirionnydd yn gefndir penigamp ar gyfer y digwyddiad ym Mhortmeirion, ac yn sicr o ysbrydoli artistiaid y fro. Dywedodd Gwawr Wyn Roberts o Fforwm Celfyddydau Gwynedd:

“Mae’r digwyddiad yma yn gyfle bendigedig i ddangos yr hyn sydd gan Wynedd i’w gynnig. Os oes artistiaid neu grwpiau celfyddydol efo diddordeb mewn cymryd rhan yn yr arddangosfa, byddwn yn eu hannog i gysylltu cyn gynted â phosib.

“Rydym yn ddiolchgar i Bortmeirion am gael defnyddio’r Neuadd Erclwff am ddim, mae hyn yn dangos eu cefnogaeth i’r sector gelfyddydau yma yng Ngwynedd.”

Cost stondin am ddeuddydd fydd £20 i aelodau Fforwm Celfyddydau Gwynedd, neu £25 i arddangoswyr eraill. Rhaid i arddangoswyr fod o Wynedd.

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad, neu i gofrestru, cysylltwch â Gwawr Wyn Roberts, Fforwm Celfyddydau Gwynedd, d/o Uned Celfyddydau Cymunedol; Archifdy Caernarfon, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH; ffoniwch 01286 679721; e-bost: GwawrR@gwynedd.gov.uk; neu ewch i www.gwyneddgreadigol.com

DYSG A DAWN ARTISTIAID GWYNEDD

CWRS UNDYDD

Mae cynnig arall i artistig Gwynedd fanteisio ar gyfle all newid eu gyrfa am byth.

Mae Uned Celfyddydau Cyngor Gwynedd Mewn partneriaeth â Llygad Busnes wedi trefnu cwrs un dydd i artistiaid a chrefftwyr sy’n awyddus i fod yn hunangyflogedig. Mae’r cwrs hefyd yn gyfle i rai sydd eisoes wedi mentro i atgoffa’u hunain o’r sgiliau angenrheidiol i wneud bywoliaeth o gelfyddyd.

Dyma’r ail waith i’r cwrs gael ei gynnal dros gyfnod yr hydref, gan i’r cwrs diwethaf fod mor boblogaidd. Jill Piercy fydd yn cynnal y cwrs, yn Swyddfa Llygad Busnes, Dolgellau ar ddydd Gwener, Tachwedd 21, 9.30am-4pm. Bydd y cwrs yn cynnwys gwersi pwysig megis yr ochr weinyddol i redeg busnes, marchnata, beth yw’r ffordd orau o drefnu amser, sut mae gwneud cais am grantiau a phwysigrwydd cadw cofnodion.

Dyma gyfle euraidd i fedru mentro i wneud bywoliaeth o gelf yn ôl Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd, Gwawr Wyn Roberts. Dywedodd: “Mae pobl sydd yn astudio am radd celf yn datblygu sgiliau creadigol, ond nid yw’r cwrs o reidrwydd yn paratoi rhywun i fentro i fod yn hunan gyflogedig a datblygu gyrfa.

“Credaf byddai’r cwrs yn apelio at bobl sydd wedi graddio yn y celfyddydau, neu efallai rhywun sydd eisiau datblygu celf o fod yn hobi i fod yn yrfa barhaol.”

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal trwy gyfrwng y Saesneg.

Mae’n rhad ac am ddim i bobl sy’n byw neu’n gweithio yng Ngwynedd, rhaid talu blaendal o £25 fydd yn ad-daladwy wedi mynychu’r cwrs. Cost y cwrs i bobl nad ydynt yn byw ac yn gweithio yn y sir fydd £25. Darperir cinio i bawb.

Am fwy o wybodaeth ac am ffurflen gofrestru, cysylltwch â Bethan Lloyd Barlow ar (01341) 422879; BethanLloydBarlow@gwynedd.gov.uk neu ewch i www.gwynedd.gov.uk/celf i lawrlwytho ffurflen gofrestru.



Y DARLUN EHANGAF

DIWRNOD O HYFFORDDIANT AM DDIM - MARIA HAYES

Diwrnod hyfforddiant AM DDIM wedi ei ddyfeisio ar gyfer artistiaid a chrefftwyr sy’n awyddus bod yn hunangyflogedig.

Maria Hayes

20 Hydref 2008

Plas Tan y Bwlch, Penrhyndeudraeth

Penderfynu sut i rannu eich amser
Sgiliau trosglwyddadwy
Opsiynau cysylltiedig â chelf
A ydych o ddifrif?
Rheolau’r cychwynol
Rhestr wirio hunangyflogaeth
Rheolaeth
Cadw cofnodion
Ceisiadau
Marchnata
Diffinio llwyddiant

*Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg gan y Tiwtor Maria Hayes

Cofrestru ar gyfer artistiaid o Wynedd: £25 blaendal ad-daladwy wedi i chwi fynychu’r hyfforddiant ynghyd â tystysgrif presenoldeb. Artistiaid o du allan i Wynedd: £25 ffi cwrs yn daladwy.

Cyswllt ar gyfer manylion pellach: Gwawr Wyn Roberts 01286 679721 GwawrR@gwynedd.gov.uk••••www.gwynedd.gov.uk/celf

GLAN MÔR YN YSBRYDOLI'R ARTIST IFANC!

ARTIST IFANC EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CAERDYDD A'R CYLCH 2008

Artist tecstilau o Fangor sydd wedi ennill Ysgoloriaeth Artist Ifanc Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch 2008. Mae gwaith Anna Pritchard wedi’i ysbrydoli gan liwiau a siapau glannau glan môr.

Yn ôl Nia Roberts a fu’n cyd-ddethol gyda Claire Curneen, Ifor Davies, Tessa Jackson a Sue Williams, mae gwaith llaw yr artist “yn hynod o gywrain a hardd” ac maen nhw’n edrych ymlaen at ddilyn datblygiad ei gwaith.

Bwriad Anna Pritchard, 24 oed, yw defnyddio’r £1,500 tuag at gostau mynd i Halifax, Swydd Efrog i dderbyn gwersi meistr gan Francis Moore, sy’n wehydd byd-enwog yno.

Tecstiliau Anna Pritchard

Dilynodd Anna Pritchard gwrs dylunio tecstilau, gan arbenigo mewn gwehyddu, yng Ngholeg Celf Manceinion ac ar ôl graddio yn 2007, dewisodd ddychwelyd i’w bro enedigol i sefydlu ei busnes ei hun. Bydd yr hyfforddiant pellach yn ei helpu i berffeithio ei sgiliau. Mae’n cynhyrchu brethyn ar gyfer y tŷ ac ategolion mewn lliwiau cynnes a chyfoethog.

Sefydlwyd yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc yn 1999 a dyma’r ddegfed tro iddi gael ei dyfarnu. Dyfernir yr ysgoloriaeth i'r ymgeisydd mwyaf addawol er mwyn ei alluogi i ddilyn cwrs mewn ysgol neu goleg celf cydnabyddedig neu fynychu dosbarthiadau meistr. Mae’r ysgoloriaeth yn agored i'r sawl sydd o dan 25 oed adeg yr Eisteddfod. Disgwylir i'r ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer baratoi portffolio a chyflwyno cais yn esbonio sut y bwriedir defnyddio'r ysgoloriaeth. Ystyrir dangos y gwaith a gyflwynwyd yn yr Y Lle Celf. Yn ogystal, ystyrir cynnig gofod i enillydd yr ysgoloriaeth yn y Lle Celf yn yr Eisteddfod ganlynol.

Eleni derbyniwyd 46 cais ar gyfer ei ystyried - y nifer fwyaf erioed o geisiadau. Manylion pellach: Robyn Tomos, Swyddog Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod :07787 550017

YDDWCH YN BAROD AM GERDLUN!

GWAITH CELF ANHYSBYS GWREIDDIOL AR GERDUN

Gair yw ‘Cerdlun’ wnaed o ‘cerdyn post’ a ‘darlun’. Mae cyhoeddusrwydd lu yn y wasg i GERDLUN fydd yn arddangosfa/arwerthiant o weithiau gwreiddiol gan artistiaid, enwogion a charedigion o bedwar ban y byd, i godi arian i un o hoff orielau Cymru - Oriel Plas Glyn-Y-Weddw yn Llanbedrog.

A5 neu gerdyn post yw maint y gwaith, ar bynciau ac mewn cyfrwng o ddewis yr arlunydd e.e. peintiad, tecstil, lluniad, cartŵn, dwdl neu a fynno. Mae pob darn wedi ei arwyddo, gyda’r dyddiad a’r teitl ar y cefn yn unig, fydd yn annog prynwyr i ddefnyddio’u sgiliau, tâst personol a barn, yn hytrach na label mewn oriel, wrth wneud eu dewis allan o hyd at 1,000 o weithiau gwreiddiol fydd ar gael.

Mae ansawdd syfrdanol y gwaith sydd wedi dod i law wedi creu brwdfrydedd mawr ymysg y trefnwyr. Mae gwaith gan Jack Vettriano, William Selwyn, Gareth Parry, Keith Bowen, Bryn Terfel a nifer o arlunwyr ac enwogion eraill. yn gwneud CERDLUN yn arddangosfa werth ei gweld.

Mae tocynnau’r noson gyntaf eisoes wedi gwerthu allan. Mae arwerthiant Cerdlun yn parhau trwy ddydd Sul a dydd Llun, Gorffennaf 27+28ain – lle bydd mynediad am ddim i’r cyhoedd. Bydd pob un Cerdlun ar werth am yr un pris, sef £25. Mae cyfle gwych yma felly i chi berchnogi gwaith celfydd gwreiddiol (ac o bosib gwerthfawr) am bris argraffiad bychan. Byddwch hefyd wrth gwrs yn cefnogi un o orielau harddaf Gymru, a reolir fel Ymddiriedolaeth Elusennol, ar yr un pryd.

Cyhoeddir ac arddangosir rhestr o’r arlunwyr sy’n cyfrannu ynghyd â detholiad o’r gwaith diweddaraf ar www.oriel.org.uk www.oriel.org.uk. Bydd y gwaith cyntaf ar werth yn Oriel Plas Glyn-Y-Weddw o nos Sadwrn, Gorffennaf 26ain, 2008
Bydd pob gwaith yn gwerthu am yr un pris - £25
Bydd Ocsiwn fechan ar ddechrau’r noson agoriadol yn cynnwys gwaith gan Jack Vettriano. Bydd gofyn i unrhyw un sydd eisiau cynnig yn yr ocsiwn dros y ffôn gofrestru ei diddordeb cyn yr 25ain o Orffennaf drwy ffonio 01758 740763.
Bydd y gwaith i’w weld hyd at Orffennaf 29ain.

LLONGYFARCHIADAU LIZ!

Llongyfarchiadau mawr iawn i Liz Aylett ar dderbyn Gwobr Cyrhaeddiad Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru.

Mae Liz Aylett bellach yn arwain y Tîm Therapïau Celf, ac wedi datblygu rhaglenni Celf mewn Iechyd ar draws yr Ymddiriedolaeth. Mae'r datblygiadau newydd hyn wedi darparu hyfforddiant a swyddi ac wedi cael effaith eang ar ofal cleifion. Derbyniwyd Therapïau Celf a Chelf mewn Iechyd fel dulliau newydd, arloesol o weithio. Mae hyn yn cael effaith gweladwy a phositif ar wasanaethau i gleifion ac mae ganddyn nhw swyddogaeth bwysig yn Strategaeth Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd yr Ymddiriedolaeth.

I ddarllen mwy am y stori, cliciwch yma.

LLE'R PWLL

CD i gofnodi cyfraniad y Cymry i ddinas Lerpwl

YN EI BLWYDDYN FAWR YN BRIFDDINAS DIWYLLIANT EWROP

Caneuon ac

Caneuon ac alawon mewn sawl arddull gan Tudur Morgan ar label FFLACH

Cyflwyniad i'r CD gan Tudur:

"Pam na 'nei di greu CD o gwmpas dy gân 9 Stryd Madryn i ddathlu cyfraniad y Cymry i Lerpwl erbyn 2008," meddai Mici Plwm wrthyf tua 18 mis yn ôl.

Felly i Mici Plwm mae'r diolch a neb arall!(Yn ogystal â Chwmni Fflach wrth gwrs am eu cefnogaeth)

Wrth i'r misoedd basio a'r syniadau gronni mi es i ati o ddifri i ddewis casgliad i gofnodi'r flwyddyn hanesyddol hon.

9SM

'Roedd 9 Stryd Madryn wedi ysgogi llawer o siarad am y cysylltiadau efo "strydoedd Cymreig" Toxteth a adeiladwyd gan ddynion o Ogledd Cymru a'r bygythiad diweddar i'w dymchwel oedd y pwnc trafod rhwng Mici a minnau yn ystod yr alwad ffôn honno.

Ar wylia' hanner tymor efo 'mhlant oeddwn i yn Lerpwl tua phedair blynedd yn ôl;gwelais y geiriau "ganed Ringo Starr yn 9 Stryd Madryn," yn Amgueddfa'r Beatles (y fargen oedd siopa yn y bora-Bityls yn y pnawn) -'roeddwn yn gwybod yn syth y byddai cân yn dod o rywle,rhywbryd -'doedd dim rhaid i mi sgwennu'r teitl yn unman 'roedd o yn fy ngho'n ddiogel tan i mi ddechrau potsian efo cordiau wythnosau lawer yn ddiweddarach a ganwyd y gân a 'i chyhoeddi yn 'Steddfod yr Urdd Sir Fôn, 2004 ar CD o'r un enw.

Tudur Morgan Lle'r Pwll

Sain Ffaganaidd

Mae amgueddfa yn cael ei chodi ar lannau'r Mersi a'r gobaith yw y bydd y Cymry'n cael eu cynrychioli yno hefyd .Yno y fan yma y bydd Naw Stryd Madryn yn cael ei ail adeiladu mewn dull Sain Ffaganiadd,ond "be 'di'r pwynt o'i dynnu i lawr a'i symud!" oedd ymateb diweddar Ringo Starr.

Mae'n anorfod y bydd y casgliad yn ddehongliad personol ond mae'r caneuon a'r alawon yn cyfleu teimladau hiraethus y fflyd o bobl adawodd Ogledd Cymru am Lerpwl dros gyfnod maith.

Mae nodiadau hanesyddol y llyfryn wedi eu paratoi gan Y Parchedig D.Ben Rees-pwy well?

Jac Jones fydd yn paentio llun blaen y CD a Charli Britton fydd yn gweu'n gyfrifiadurol eiriau a lluniau ddoe a heddiw yn nhudalennau'r llyfryn.

Lob Sgows

Lob sgows cerddorol fu Lerpwl erioed ac mi fydd 'na arddulliau gwahanol i'w clywed yn yr 8 cân;4 alaw werin a 4 fersiwn Saesneg o rai o'r caneuon.

Mae'r ffidlwr Huw Roberts-o Langefni fel finnau wedi ffendio alawon a genid gan delynorion Môn yn nhafarndai "Lle'r Pwll"-un o'r myrdd o hen enwau a roddwyd ar y ddinas.Bydd yr alawon hynny'n rhoi blas ychwanegol a chysylltiad arall rhwng Ynys Môn a "Phrifddinas Gogledd Cymru."

Recordiwyd y CD yn Stiwdio Rockcliffe,Llandudno gan Simon Gardner

Ar wahân i TM ar y gitarau,lleisiau,offerynnau taro,bâs ac ati clywir Tudur Huws Jones-banjo,mandolin,pib;Huw Roberts-ffidil,telyn deires;Simon Gardner-allweddellau a Bedwyr Morgan- gitâr drydan.

Hogia a genod o Wynedd a Chlwyd roddodd gymaint i ddiwylliant Lerpwl-dathlwn a chofiwn am eu cyfraniad ar CD "Lle'r Pwll."

"Dwi'n mynd o wlad y medra a 'nghalon fel y plwm i godi strydoedd Lerpwl ymhell o'r llethrau llwm," (o'r gân "Mynd o wlad y medra")

Tudur Morgan
01248724918 / 07709201503 / TUDURM@aol.com

CELFYDDYDAU MEWN IECHYD A LLES

Celfyddydau’r Gwanwyn yn Ysbyty Eryri, Caernarfon.

Bu’r artist gweledol Nancy Evans a’r Bardd Iwan Llywd yn cydweithio gyda’r cleifion a’r staff yn Ysbyty Eryri i gynhyrchu cyfres o ddarnau tecstil printiedig, sydd wedi dod a chreadigrwydd newydd i’r ysbyty.

Gan ddefnyddio tymor y Gwanwyn ac Adnewyddu yn ysbrydoliaeth, mae’r cleifion wedi ysgrifennu cerddi a chynhyrchu printiadau sgrin. Defnyddiwyd ffabrigau wedi eu hail-gylchu i brintio arnynt a chafodd y darnau terfynol eu gwnïo ynghyd gan ddefnyddio partymau cwiltio Cymreig traddodiadol yn ysbrydoliaeth.

Caiff y gwaith hwn ei arddangos yn Galeri, Caernarfon rhwng 16eg – 23ain Mai fel rhan o Ŵyl Gelfyddydol - Gwanwyn 08`. Ar ôl hynny, caiff y gwaith ei arddangos yn barhaol yn yr ysbyty.

Cafodd y prosiect ei gyllido trwy Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn, Cyngor Gwynedd a’i gefnogi gan Uned Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd a Rhaglen Gelfyddydau mewn Iechyd a Lles, Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru.

Ysbyty Eryri

Am wybodaeth bellach ffoniwch – 01286 679721

SEMINAR NODDI'R CELFYDDYDAU

Mae Seminar Noddi Celfyddydau & Busnes wedi ei gynllunio’n arbennig er mwyn gwella deallusrwydd o noddi a rhoi cyngor ymarferol i sefydliadau celf ynglyn â beth yw’r ffordd orau o gael gafael arno a’i ddatblygu. Mae’r diwrnod wedi ei greu ar gyfer y rhai sydd heb brofiad noddi yn ogystal â’r rhai sydd eisiau atgoffa’u hunain am egwyddorion ac arfer sylfaenol y maes arbennig hwn.

Fe gyflwynir y seminar gan Gelfyddydau & Busnes Cymru

LLEOLIAD: Glasdir, Plas Yn Dre, Llanrwst, LL26 0DF
DYDDIAD: Dydd Iau, 12 Mehefin , 10am - 4.30pm.
PRIS: £80.00 (i gynnwys TAW)

Mae’n cynnwys cinio bwffe a lluniaeth yn y pris ac mae pob cynrychiolydd yn derbyn pecyn gwybodaeth cynhwysfawr, yn cynnwys y deunydd cyflwyno a Llawlyfr Noddi Celfyddydau & Busnes (ar werth fel arfer am £15.00)

Agenda:

Cyflwyniad i noddi’r celfyddydau
· Diffinio nawdd a sut mae’n cael ei ddefnyddio gan fusnesau
· Y farchnad noddi a thueddiadau diweddar
· Pam fod busnesau’n noddi’r celfyddydau

Cynllun pum pwynt er mwyn sicrhau a datblygu nawdd
· Asesu eich sefydliad a’i anghenion
· Datblygu pecynnau ar gyfer nawdd
· Ymchwilio noddwyr posib
· Ysgrifennu cynigion a gwneud cysylltiad llwyddiannus
· Datblygu perthynas waith dda

Celfyddydau & Busnes
· Rôl a datblygiad Celfyddyau & Busnes
· Crynodeb o raglenni Celfyddydau & Busnes a sut i fanteisio arnynt
· Gwneud cais am fuddsoddiad a chynyddu’ch siawns o lwyddo

Sut i archebu’ch lle Llenwch y ffurflen drosodd a dychwelwch at Cath More yn
Celfyddydau & Busnes Cymru, Swyddfa Gogledd Cymru, Ystafell 40, Neuadd y Dref, Llandudno, LL30 2UP. Ffôn: 01492 545925 E-bost: catherine.more@AandB.org.uk


YMGYRCH I DDIOGELU AMGUEDDFA HYNAF GWYNEDD

Mae ymgyrch ar y gweill i gadw Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ym Mangor rhag cau. Galwch heibio i'r wefan am fanylion:

www.achubwchamgueddfagwynedd.org.uk


GWAITH CELF UNIGRYW AR GYFER CANOLFAN BYWYD GWLEDIG, Y BALA

Llwyddodd Canolfan Cywain, Y Ganolfan Bywyd Gwledig, Y Bala sydd wedi ei hariannu'n rhannol gan raglen Amcan 1 gan yr Undeb Ewropeaidd i dderbyn grant o £200,000 gan Gyngor y Celfyddydau, y grant cyfalaf mwyaf o'i fath i'w gyflwyno ar gyfer Brosiect Celfyddydol Cyhoeddus yng Nghymru. Lleolir y Ganolfan ar barcdir ar Ystad y Rhiwlas ar gyrion Y Bala. Bydd adnoddau amrywiol ar gael yn y Ganolfan gan gynnwys, caffi a siop, parc chwarae, arddangosfeydd a digwyddiadau amrywiol trwy gydol y flwyddyn. Trwy nawdd y grant penodwyd dau o brif artistiaid Cymru sef Angharad Pearce Jones a Howard Bowcott i gydweithio a datblygu Strategaeth Gelfyddydol Gymunedol ar gyfer y Ganolfan gan ddefnyddio ysbrydoliaeth o elfennau amrywiol o fywyd cefn gwlad.

Yr wythnos ddiwethaf, treuliodd y ddau artist gyfnod yn Ysgol Beuno Sant, Ysgol Bro Tegid ac Ysgol y Berwyn, Y Bala, yn cynnal gweithdai gyda'r disgyblion i greu darn Celfyddydol unigryw yn ail greu Ffordd y Porthmyn ar gyfer Canolfan Cywain. Yn ôl yr hanes, arferai Ffordd y Porthmyn redeg wrth ymyl lleoliad presennol y Ganolfan ar Ystad y Rhiwlas. Bu'r disgyblion a'r artistiaid wrthi'n ddyfal am wythnos yn ail greu siapiau traed yr anifeiliaid arferai deithio ar hyd y ffyrdd hyn ledled Cymru ar ddechrau'r 19fed Ganrif. Dywed Alison Price, Rheolwraig y Ganolfan "y mae'n braf cael cydweithio gydag ysgolion lleol, ac y mae'r gweithdai hyn yn gyfle bythgofiadwy i'r disgyblion gydweithio gyda rhai o brif artistiaid Cymru i greu darn Celfyddydol unigryw gwerth i'w weld yn y Ganolfan".

Bydd modd i chwi weld y gwaith arbennig hwn yng Nghanolfan Cywain wedi ei hagoriad swyddogol yn ystod gwyl banc Calan Mai eleni. Am fwy o wybodaeth ynglyn â Chanolfan Cywain, y Ganolfan Bywyd Gwledig cysylltwch â Nia Hughes ar 01678 520920 neu e-bostiwch niaanturpen@aol.com.


YSGOL BRO TEGID
Yn y llun, Lowri o Antur Penllyn, Elin, Megan a Mr O. Williams, Athro
Ail res : Jordan, Peter, Rebecca, Daniel, Ebony, Robert ac yn eistedd ar y blaen mae Ethan.
Lluniau: EVAN L. DOBSON


YSGOL BEUNO SANT
Llun o'r chwith i'r dde, Mia, Naomi, Ceri Ann, Kyle, Robin, Mael, Kirsty, Angharad P.Jones, Jamie, Meinir, Howard Bowcott, Heledd, Ifan, Emma, Cai, John, Jamie, Emily, Ben