Newyddion Diweddaraf
GWYNEDD GREADIGOL YN YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL
STONDIN GWYBODAETH Y CELFYDDYDAU
Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau ’09 (1-8 Awst)
Bydd gan Fforwm Celfyddydau Gwynedd stondin ym Mhabell Mantell Gwynedd ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni a fydd yn gweithredu fel pwynt gwybodaeth ar gyfer y sector Gelfyddydau yng Ngwynedd. Mae cyfle i unrhyw artist, ganolfan gelfyddydau neu fudiad celfyddydol o Wynedd yrru pamffledi a deunyddiau hyrwyddo atom i’w cynnwys ar y stondin. Gwelir hyn fel cyfle euraidd i hyrwyddo gwaith artistiaid unigol ac unrhyw ddigwyddiadau neu weithgareddau sy’n cymryd lle yng Ngwynedd. Dylai’r deunydd marchnata fod yn unai uniaith Gymraeg neu yn ddwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r Gymraeg, yn unol â pholisi’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae’n ofynnol i’r deunydd gyrraedd yr Ysgrifennydd erbyn dydd Llun 27 Gorffennaf. Mae hyn yn wasanaeth rhad ac am ddim.
CWRS YN NHY NEWYDD
YSGRIFENNU MEWN IECHYD A LLES
Tachwedd 16 - 21
Victoria Field a Graham Hartill
Cynhelir y cwrs fel cyflwyniad i’r theori a’r ymarferiad o ddefnyddio’r celfyddydau llenyddol fel rhan annatod o ofal iechyd a llês. Byddwch yn profi gwahanol ffyrdd y mae modd defnyddio ysgrifennu gyda chleifion, cleientiaid ac mewn sefydliadau addysgiadol a chymunedol. Bydd y cwrs o ddiddordeb i awduron a beirdd, gweithwyr proffesiynol yn y maes meddygol a gofal iechyd, cwnselwyr, therapyddion, gweithwyr cymdeithasol, llyfrgellwyr, academyddion, athrawon, defnyddwyr gwasanaeth a darparwyr gwasanaeth mewn sefyllfaoedd therapiwtig – ac unrhyw un sydd â diddordeb yn unrhyw un o’r meysydd hyn.
Ar gyfer y rhai sydd yn defnyddio llenyddiaeth mewn therapi neu sydd yn gweithio tuag at achrediadau gallwn ddarparu tystysgrif presenoldeb at ddiben CPD.
Mae Victoria Field yn gweithio fel awdur a therapydd barddonol mewn amrywiaeth o sefydliadau iechyd, addysg a chymunedol. Mae’n gyn-gyfarwyddwr Survivors Poetry a bu’n cadeirio ddwywaith i Lapidus, y sefydliad dros ddarllen ac ysgrifennu mewn iechyd a llês ym Mhrydain. Mae hi wedi cyd-olygu dau lyfr ar ysgrifennu therapiwtig, Writing Works a Prompted to Write, wedi cyhoeddi dau gasgliad o farddoniaeth ac mae Hall for Cornwall wedi cynhyrchu dwy o’i dramâu.
Mae Graham Hartill wedi gweithio mewn sefydliadau sy’n amrywio o ysbytai i garchardai a chanolfanau iechyd meddwl. Cyhoeddwyd ei gerddi detholedig, Cennau’s Bell yn 2005 a’i lyfr diweddaraf A Winged Head gan Parthian Books yn 2006
GWESTAI: Rose Flint Pris: £495 (sengl) £435 (rhannu)
*MAE HWN YN GWRS DRWY GYFRWNG Y SAESNEG*
Manylion Cwrs
Disgwylir i fynychwyr gyrraedd rhwng 4.30yh a 6.00yh erbyn swper am 7yh ar y nos Lun ac i adael erbyn 10 fore ddydd Sadwrn.
Byddwch yn helpu eich hunain i frecwast a chinio ac yn cynorthwyo i baratoi un pryd bwyd gyda’r nos fel rhan o grŵp. Rydym yn darparu bwyd ar gyfer llysieuwyr a’r rhai sydd â gofynion bwyd arbennig (Rhowch wybod ymlaen llaw).
Mae gennym gyfrifiaduron pen-glin a mynediad di-dâl i’r rhyngrwyd ar eich cyfer.
Bwrsari
Rydym yn ceisio’n gorau i alluogi pawb i elwa o gwrs yn Nhŷ Newydd ac felly mae cronfa bwrsari wedi ei sefydlu i gynorthwyo’r rhai ar incwm isel.
* Mae arian bwrsari wastad yn gyfyngedig ac ni allwn sicrhau cymorth ariannol bob tro.
* Mae Cyngor Gwynedd yn cynnig bwrsari llawn i siaradwr Cymraeg sy’n byw yng Ngwynedd, dyddiad cau 28 Medi 09.
* Mae manylion pellach, ffurflenni archebu a ffurflenni cais am fwrsari ar gael ar-lein neu cysylltwch:
Tŷ Newydd, Y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd LL52 0LW
post@tynewydd.org | www.tynewydd.org
