Ymholiadau am Lety
I dderbyn gwybodaeth am lety yng Ngwynedd, llenwch yr holiadur isod. Er mwyn ei gwneud yn haws i ni ddod o hyd i'r llety delfrydol i chi llenwch pob blwch. Diolch!
Am ragor o wybodaeth ar lefydd i aros, atyniadau twristiaid, bwytai, teithiau diddorol a llawer mwy ewch i www.gwynedd.gov.uk
I archebu llety, ffoniwch: 01286 676127
Am ragolygon y tywydd yng Ngwynedd cliciwch yma
: www.bbc.co.uk/cymru/tywydd
Amodau Archebu Llety Drwy Ganolfan Groeso
Mae’r archeb a wnaed i chi yn cyfateb i gytundeb gyfrwymol rhwng y cwsmer a pherchennog y llety. Mae’r Ganolfan Groeso yn actio fel asiant yn unig.
Nid yw’r Ganolfan Groeso yn derbyn unrhyw oblygiadau cytundebol o dan y cytundeb hwn a dim yn rhoi gwarant nac addewid parthed y llety.
Rhaid talu y pris sy’n daladwy gan y cwsmer i’r llety, sef 90% o’r cyfanswm, yn uniongyrchol i’r perchennog.
Cymerir blaendal o 10% o GYFANSWM cost y llety oddi wrth y cwsmer ar adeg yr archeb. Tynnir yr arian hwn o gyfrif terfynol y cwsmer gan y darparwr llety. Hefyd, codir ffi archeb o £2.00, sydd ddim yn ad-daladwy, ar gyfer costau gweinyddol. Ni ad-delir y ffi gan y Ganolfan Groeso dan unrhyw amgylchiadau yn y naill achos na’r llall.
Ble bydd yr archeb yn cael ei wneud dros 24 awr o flaen llaw rhaid i’r cwsmer gysylltu a’r perchennog i gadarnhau’r archeb.
Derbynnir taliad trwy cerdyn credyd neu debyd.