LLENYDDIAETH
Os hoffech fod ar y rhestr hon cysylltwch â ni.
Cae'r Gors: Canolfan Treftadaeth Kate Roberts •••• t: 01286 831715
Dewch i Gae’r Gors, cartref plentyndod Kate Roberts. Yn ein harddangosfa amlygyfrwng cewch ddarganfod beth ysbrydolodd yr awdures, a chewch wrando ar leisiau’r gorffennol yn y bwthyn traddodiadol. Os y dymunwch drefnu ymweliad grŵp gallwn, drwy drefniant o flaen llaw, deilwra eich profiad er mwyn sicrhau eich bod yn cael ymweliad bythgofiadwy. Mae’r ganolfan hefyd ar gael i’w llogi ar gyfer cynnal cyfarfodydd, gweithdai, darlithoedd a chyrsiau. Mae’r ganolfan ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Gwener dros fisoedd y gaeaf. Mae ar gau dros gyfnod y Nadolig a’r Calan.
www.caergors.org
Cae'r Gors, Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts, Rhosgadfan, Caernarfon, Gwynedd LL54 7EY
Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd •• •••••••••••••• t: 01766 522811
Tŷ Newydd yw’r Ganolfan Ysgrifennu Cenedlaethol. Y prif weithgaredd yw cyrsiau preswyl ar ysgrifennu creadigol, yn y Gymraeg ac yn Saesneg, ar gyfer plant ac oedolion, yn unigolion neu’n grwpiau.
www.tynewydd.org
Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd LL52 0LW
Cynllun Hyrwyddo Llenyddiaeth Gwynedd••••••••• t: 01286 679465
Stompiau, talyrnau, beirdd yn y bar. Gŵyl flynyddol i gofio awduron Gwynedd, Sgwad Sgwennu a Hei Hogia, sef prosiect i annog bechgyn ifanc i gydio mewn llyfr a’i ddarllen. Gweithdai rap, Diwrnod y Llyfr, Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth - pob math o lenyddiaeth i bob math o bobl. Cefnogir Cynllun Hyrwyddo Llenyddiaeth Gwynedd ar y cyd rhwng yr Academi a Chyngor Gwynedd. Yr Academi yw’r Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru.
Y Llyfrgell, Allt Pafiliwn, Caernarfon, Gwynedd LL55 1AS
