DIGWYDDIADAU 2008

Ers cyn dyddiau’r Rhufeiniaid bu Gwynedd yn ganolbwynt gweithgaredd creadigol. Mae ein traddodiadau barddol a chwedlonol wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn y sir, a bu golygfeydd ysblennydd ein môr a mynydd yn ysbrydoliaeth i weithiau celfyddydol o bwys rhyngwladol ar dyn ferw o weithgareddwch celfyddydol eang o’r safon uchaf sy’n cael eu hadlewyrchu yn orielau, neuaddau a gwyliau niferus y sir.


GWANWYN 2008

Fforwm Celfyddydau GWYNEDD - CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL
6pm 7 / 4 / 08. Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0SH
Mynediad am ddim. Noson yng nghwmni:

Gwyn L Williams - Rhaglennydd Creadigol 2012 ar gyfer yr Olympiad yng Nghymru
Esther Roberts - Curadur Amgueddfa ac Oriel Gwynedd
Luned Aaron - Llywydd Fforwm Celfyddydau Gwynedd (i'w chadarnhau)

*Darperir lluniaeth ysgafn*

Bydd cyfle i chwi ymaelodi neu adnewyddu eich aelodaeth â'r Fforwm ar y noson, pe y dymunwch. £5.00 am y flwyddyn.

I archebu lle cysylltwch â Gwawr Wyn Roberts ar 01286 679721
neu ebostiwch GwawrR@gwynedd.gov.uk

TAITH 'Y GOBAITH A'R ANGOR' gan Dylan Rees
26 o Fawrth i 19 o Ebrill, 2008

baracaws

Y Cast: Gwenno Elis-Hodgkins, Dyfrig Wyn Evans, John Glyn Owen, Huw Llyr, Gwyn Vaughan. Cyfarwyddwr: Maldwyn John Cynllunydd: Emyr Morris-Jones
Comedi ddwys yw drama gyntaf Dylan Rees yn llawn chwerthin a thristwch a gwirionedd.

Cliciwch yma am gopi o ddyddiadau'r daith (agorir ffenestr newydd)

CERDDI YN Y CWPWRDD COTIAU A THU HWNT , 3 Bardd, 3 llais, 3 lle..

Cyfle i glywed Mei Mac, Iwan Llwyd a Geraint Lovgreen yn perfformio eu cerddi ac yn mynd a ni ar drywydd y rhif 3 yn y Bar, Galeri ar Fawrth 22 ain 2008 am 1:00 - 1:30 ( amser cinio). Mynediad am ddim

Clec Cynghanedd - Awydd dysgu am y grefft o gynganeddu? Gweithdai blasu yn cychwyn, o'r cychwyn efo cynganeddwyr newydd yn Galeri ar Fawrth 22 ain 2008

2 – 4 y pnawn Oed uwchradd efo Iwan Llwyd.
2 – 4 y pnawn Oedolion efo Mei Mac

Cost £2

DATHLIADAU'R PASG YNG NGHAE'R GORS
Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts yn Rhosgadfan ger Caernarfon.
Sioe Bypedau, Helfa Drysor, Peintio Wynebau, Gweithgareddau Crefft.
Sul a Llun 23/24 Mawrth, 2008, o 10.00 o'r gloch y bore hyd 4.00 o'r gloch y prynhawn.
Oedolion: £3.80 Plant Phensiynwyr: £3.20 Tocyn Teulu: £12.00
Ffôn: 01286 831715 e-bost: post@caergors.org

PENWYTHNOS JAZZ DOLGELLAU
Nos Wener, Mawrth 14, 2008.
Coleg Meirion Dwyfor, Dolgellau.
Clwb Cerddoriaeth Dolgellau'n cyflwyno Pedwarawd Jazz Michael Garrick sy'n cyfuno hiwmor, bywogrwydd a dawn anhygoel. Tocynnau ar gael drwy e-bostio: secretary@dolgellaumusicclub.org.uk

Bore Sadwrn, Mawrth 15, 2008.
10.00 - 12.00.
Ty Siamas, Dolgellau.
Clwb Cerddoriaeth Dolgellau'n cynnal Gweithdy Jazz o dan arweiniad
aelodau pedwarawd Jazz Michael Garrick.
Mynediad am Ddim

Hydref 2007

Mis Celfyddydau Gwynedd