CANOLFANNAU A THEATRAU
Os hoffech fod ar y rhestr hon cysylltwch â ni.
Canolfan Hanes Uwchgwyrfai •••••••••••••••••• t: 01286 660853
Menter gymunedol sy'n cynnal amrywiol arddangosfeydd sy'n cyfleu hanes cyfoethog Uwchgwyrfai yn hen ysgoldy Eben Fardd. Y bwriad yw cynnal archif ddigidol ar y safle a dyma hefyd gartref Utgorn Cymru – y cylchgrawn hanes misol ar dâp ar gyfer y deillion.
www.uwchgwyrfai.com
Cyfadran Datblygu, Cyngor Gwynedd, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH
Galeri •••••••••••••••••••••••••••••••••••• t: 01286 685222
Mae Galeri'n cynnig theatr/sinema 400 sedd ynghyd ag oriel gelf, caffi, bar a chyfleusterau cynadledda. Mae yno ystafelloedd i'w llogi ac mae'n gartref i 16 o fentrau creadigol.
www.galericaernarfon.com
Doc Victoria, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SQ
Y Ganolfan •••••••••••••••••••••••••••••••••t: 01766 513372
Canolfan aml-bwrpas p'le y cynhelir arddangosfeydd amrywiol, cyngherddau, ffeiriau crefft a dramâu.
www.y-ganolfan.com
Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9LU
Parc Glynllifon •••••••••••••••••••••••••••••• t: 01286 830222
Cynhelir nifer o ddigwyddiadau celfyddydol yng Nglynllifon gan cynnwys yr Ŵyl Gardd Goll, sef gŵyl gerddorol a gynhelir yn flynyddol mewn amffitheatr awyr agored.
www.gwynedd.gov.uk
Ffordd Clynnog Fawr, Llanwnda, Caernarfon, Gwynedd LL54 5DY
Oriel Dafydd Hardy •••••••••••••••••••••••••••t: 07774 730325
Mae Oriel Dafydd Hardy'n ganolfan gelfyddydol wahanol/arbrofol/ar gyfer pobl ifanc a reolir am resymau cwbl anhunanol gan Gwmni Gwerthwyr Tai Dafydd Hardy. Mae'r lleoliad yn cynnig cyfle unigryw i is-raddedigion, graddedigion ac ôl-raddedigion gyd-gyfarfod i gyfnewid syniadau, cynnal arddangosfeydd blaengar a chreu stwr!!
Y Maes, Caernarfon, Gwynedd LL55 2NF
Neuadd Buddug••••••••••••••••••••••••••••••t: 01678 520800
Rhaglen amrwyiol o ffilmiau ar nosweithiau Mercher, Gwener a'r Sadwrn drwy'r flwyddyn. Cynhelir cynyrchiadau proffesiynol ac amateur ar gyfer pob oedran a llogir y neuadd ar gyfer cynnal gweithdai, cyngherddau, dramiâu a dawnsfeydd.
www.gwynedd.gov.uk
Lôn Pensarn, Y Bala, Gwynedd LL23 7SR
Neuadd Dwyfor ••••••••••••••••••••••••••••••t: 01758 704088
Sinema, theatr, neuadd gyngerdd ac oriel. Rhaglen amrywiol yn y Gymraeg a Saesneg ar gyfer pob oedran. Dramâu, cyngherddau, balé, opera, gweithdai a phantomeim proffesiynol ac amateur.
www.gwynedd.gov.uk
Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd LL53 5DE
Theatr Harlech •••••••••••••••••••••••••••••••t: 01766 780667
Mae Theatr Harlech yn cynnal rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau gan gynnwys ffilmiau ac arddangosfeydd ynghyd ag amrywiaeth helaeth o berfformiadau byw. Mae’r theatr hefyd yn cynnig cyrsiau cymunedol ac yn gallu darparu lle ar gyfer cynnal cyfarfodydd a chynadleddau. Ceir manylion llawn ar ein gwefan.
www.theatrharlechy.com
Harlech, Gwynedd LL48 6EE
Cae'r Gors: Canolfan Treftadaeth Kate Roberts •••• t: 01286 831715
Dewch i Gae’r Gors, cartref plentyndod Kate Roberts. Yn ein harddangosfa amlygyfrwng cewch ddarganfod beth ysbrydolodd yr awdures, a chewch wrando ar leisiau’r gorffennol yn y bwthyn traddodiadol. Os y dymunwch drefnu ymweliad grŵp gallwn, drwy drefniant o flaen llaw, deilwra eich profiad er mwyn sicrhau eich bod yn cael ymweliad bythgofiadwy. Mae’r ganolfan hefyd ar gael i’w llogi ar gyfer cynnal cyfarfodydd, gweithdai, darlithoedd a chyrsiau. Mae’r ganolfan ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Gwener dros fisoedd y gaeaf. Mae ar gau dros gyfnod y Nadolig a’r Calan.
www.caergors.org
Cae'r Gors, Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts, Rhosgadfan, Caernarfon, Gwynedd LL54 7EY
